â â â Marwnad Madog Benfras
1â â â Rhidyll hudolaidd rhydwn
2â â â Rhyw fyd ar ei hyd yw hwn.
3â â â Y macwy llawen heno,
4â â â Hyfryd i'w fywyd a fo,
5â â â Breuddwyd, gofid ebrwyddarw,
6â â â A dry yfory yn farw.
7â â â Pam y'm cên awen ewybr,
8â â â Pêr orgraff, oleubraff lwybr,
9â â â Am Fadog, farddlef efell,
10â â â Benfras? Ni bu wawdwas well.
11â â â Bu ddewr hael, ni bydd yrhawg,
12â â â Gormail mydr, gwr mal Madawg
13â â â O fedru talm o fydroedd,
14â â â O gerdd dda, ac arwydd oedd,
15â â â O ddwysgwbl serch oddysgaid,
16â â â O ddigrifwch fflwch a phlaid,
17â â â O gariad yn anad neb,
18â â â Oddaith henw ei ddoethineb.
19â â â Dengyn ym mlwyddyn fy mloedd
20â â â Dwyn Madog, dinam ydoedd.
21â â â Uthr yw'r gwydd am athro gwyr.
22â â â Disgybl yn fyw nid esgyr.
23â â â Pill eglur, penadur pwyll,
24â â â Paun da'i ddadl, pand oedd ddidwyll?
25â â â Cad daradr, ceudod tirion,
26â â â Canwyr i'r synnwyr a'r sôn;
27â â â Cwplws, garueiddgerdd Ferddin,
28â â â Cwpl porthloedd, golygoedd gwin,
29â â â A thampr o ddewis mis Mai
30â â â A thrwmpls y gerdd a'i thrimplai,
31â â â A chôr i serch a chariad
32â â â A choprs cerdd a chiprys cad.
33â â â Pêr organ, degan digeirdd,
34â â â Pennaeth barddonïaeth beirdd.
35â â â Diaml aur, mâl a dalai,
36â â â Diarail fydd manddail Mai;
37â â â Dihoywfro beirdd dihyfryd,
38â â â Digywydd y bydd y byd;
39â â â Digerdd eos befrdlos bach,
40â â â Dwf acses Eigr difocsach;
41â â â Dibarch fydd bedw, nis cedwyn',
42â â â Da beth oedd, diobaith ynn.
43â â â Cwpl ewybr, capel awen,
44â â â Copr pawb wrthaw; gwaglaw gwen.
45â â â Gwladaidd oedd gwledydd, eddyw,
46â â â O bai fyd, na bai ef fyw.
47â â â Gwae feirddlu! Gwiw ei farddlef.
48â â â Gyda Duw y gadwyd ef.