| Marwnad Madog Benfras | |
| Rhidyll hudolaidd rhydwn | |
| Rhyw fyd ar ei hyd yw hwn. | |
| Y macwy llawen heno, | |
| 4 | Hyfryd i'w fywyd a fo, |
| Breuddwyd, gofid ebrwyddarw, | |
| A dry yfory yn farw. | |
| Pam y'm cên awen ewybr, | |
| 8 | Pêr orgraff, oleubraff lwybr, |
| Am Fadog, farddlef efell, | |
| Benfras? Ni bu wawdwas well. | |
| Bu ddewr hael, ni bydd yrhawg, | |
| 12 | Gormail mydr, gŵr mal Madawg |
| O fedru talm o fydroedd, | |
| O gerdd dda, ac arwydd oedd, | |
| O ddwysgwbl serch oddysgaid, | |
| 16 | O ddigrifwch fflwch a phlaid, |
| O gariad yn anad neb, | |
| Oddaith henw ei ddoethineb. | |
| Dengyn ym mlwyddyn fy mloedd | |
| 20 | Dwyn Madog, dinam ydoedd. |
| Uthr yw'r gwŷdd am athro gwŷr. | |
| Disgybl yn fyw nid esgyr. | |
| Pill eglur, penadur pwyll, | |
| 24 | Paun da'i ddadl, pand oedd ddidwyll? |
| Cad daradr, ceudod tirion, | |
| Canwyr i'r synnwyr a'r sôn; | |
| Cwplws, garueiddgerdd Ferddin, | |
| 28 | Cwpl porthloedd, golygoedd gwin, |
| A thampr o ddewis mis Mai | |
| A thrwmpls y gerdd a'i thrimplai, | |
| A chôr i serch a chariad | |
| 32 | A choprs cerdd a chiprys cad. |
| Pêr organ, degan digeirdd, | |
| Pennaeth barddonïaeth beirdd. | |
| Diaml aur, mâl a dalai, | |
| 36 | Diarail fydd manddail Mai; |
| Dihoywfro beirdd dihyfryd, | |
| Digywydd y bydd y byd; | |
| Digerdd eos befrdlos bach, | |
| 40 | Dwf acses Eigr difocsach; |
| Dibarch fydd bedw, nis cedwyn', | |
| Da beth oedd, diobaith ynn. | |
| Cwpl ewybr, capel awen, | |
| 44 | Copr pawb wrthaw; gwaglaw gwen. |
| Gwladaidd oedd gwledydd, eddyw, | |
| O bai fyd, na bai ef fyw. | |
| Gwae feirddlu! Gwiw ei farddlef. | |
| 48 | Gyda Duw y gadwyd ef. |