Edited Text: 20 - Marwnad Madog Benfras

Print friendly version

Marwnad Madog Benfras

Rhidyll hudolaidd rhydwn
Rhyw fyd ar ei hyd yw hwn.
Y macwy llawen heno,
4 Hyfryd i'w fywyd a fo,
Breuddwyd, gofid ebrwyddarw,
A dry yfory yn farw.

    Pam y'm cên awen ewybr,
8 Pêr orgraff, oleubraff lwybr,
Am Fadog, farddlef efell,
Benfras? Ni bu wawdwas well.
Bu ddewr hael, ni bydd yrhawg,
12 Gormail mydr, gŵr mal Madawg
O fedru talm o fydroedd,
O gerdd dda, ac arwydd oedd,
O ddwysgwbl serch oddysgaid,
16 O ddigrifwch fflwch a phlaid,
O gariad yn anad neb,
Oddaith henw ei ddoethineb.

    Dengyn ym mlwyddyn fy mloedd
20 Dwyn Madog, dinam ydoedd.
Uthr yw'r gwŷdd am athro gwŷr.
Disgybl yn fyw nid esgyr.
Pill eglur, penadur pwyll,
24 Paun da'i ddadl, pand oedd ddidwyll?
Cad daradr, ceudod tirion,
Canwyr i'r synnwyr a'r sôn;
Cwplws, garueiddgerdd Ferddin,
28 Cwpl porthloedd, golygoedd gwin,
A thampr o ddewis mis Mai
A thrwmpls y gerdd a'i thrimplai,
A chôr i serch a chariad
32 A choprs cerdd a chiprys cad.
Pêr organ, degan digeirdd,
Pennaeth barddonïaeth beirdd.

    Diaml aur, mâl a dalai,
36 Diarail fydd manddail Mai;
Dihoywfro beirdd dihyfryd,
Digywydd y bydd y byd;
Digerdd eos befrdlos bach,
40 Dwf acses Eigr difocsach;
Dibarch fydd bedw, nis cedwyn',
Da beth oedd, diobaith ynn.
Cwpl ewybr, capel awen,
44 Copr pawb wrthaw; gwaglaw gwen.
Gwladaidd oedd gwledydd, eddyw,
O bai fyd, na bai ef fyw.
Gwae feirddlu! Gwiw ei farddlef.
48 Gyda Duw y gadwyd ef.