Marwnad Madog Benfras
Rhyw fyd gwag, twyllodrus a bregus
yw hwn drwyddo-draw.
Bydd y gwr ifanc [sydd] yn llawen heno,
4 bydd hyfrydwch [yn perthyn] i'w fywyd,
yn troi yn [gorff] marw yfory,
hunllef, gofid buan a chreulon [yw hyn].
Pam y mae awen lachar yn fy aflonyddu,
8 ffurf soniarus, cwrs disglair a chadarn,
ar gyfrif Madog Benfras, efell o fardd yn llefain [wyf]?
Ni bu brydydd gwell [nag ef].
Bu yn ddewr a hael, ni bydd bellach
12 wr fel Madog, trais [fu ar] gerdd,
am fedru amlder o fesurau,
a cherdd gain, a phrawf oedd [o hynny],
a meistrolaeth helaeth a llwyr [ar gerdd] serch,
16 a llawenydd dibrin a dilynwyr,
a chariad yn fwy na neb,
[yr oedd] ei enw am ei ddoethineb ar gynnydd.
Cadarn fy mloedd eleni
20 [yn sgil] dwyn Madog ymaith, un perffaith ydoedd.
Enbyd yw'r coed am athro gwyr.
Ni fydd [yr un] disgybl sy'n fyw yn [gallu] esgor [ar
gerdd].
Caniadau eglur, meistr ar ddoethineb,
24 paun da ei resymeg, onid oedd yn [un] diffuant?
Ebill [i'r] llu, tyner [ei] galon,
plaen i ddoethineb ac i gerddoriaeth;
cysylltbren [a] chynheiliad noddfa, golygfeydd o win [yn llifo],
28 hardd [ei] gerdd [megis] Myrddin,
a channwyll ddethol [bob] mis Mai
ac utgorn a chorn yr awen,
ac eglwys i serch a chariad
32 a lliwiwr cerdd, a chynnen [sydd bellach] i lu.
Organ bersain, tlws y rhai heirdd,
pennaeth [ymysg y] beirdd ar farddoniaeth.
Bydd aur yn brin, teilyngai [roddion] o aur,
36 bydd mân ddail mis Mai yn ddiymgeledd;
[bydd] y beirdd aflawen heb fro groesawgar,
bydd y byd cyfan heb gywydd;
bydd yr eos fechan hardd a thlos heb gân,
40 [bydd] Eigr heb neb i'w moli [oherwydd] ymlediad haint;
bydd y llwyni bedw heb barch, ni fydd [pobl] yn eu
hamddiffyn,
llecyn dymunol ydoedd, diobaith yw y llwyni ynn.
Cynheiliad llachar, capel yr awen,
44 copr yw pob un wrth ei ymyl; gwaglaw yw [pob] merch.
Os yw'r byd [fel y mae yn ymddangos], salw oedd yr [holl]
wledydd
[oherwydd] nad oedd ef yn fyw, aeth ef [i ffwrdd].
Gwae'r llu o brydyddion! Gweddus oedd sain ei gân.
48 Gadawyd ef yng nghwmni Duw.