Llyma farnad i fadog benfras
1 Ridill hvdolaidd Rydwn
2 Ryw fyd ar i hyd yw hwn
3 y makwy llawen heno
4 hyfryd i fowyd a fo
5 [122] brevddwyd gofid ebrwyddarw
6 a dry kyn y forv i farw
7 pam im ken awen ewybr
8 per orgraff olevbraff lwybr
9 am fadawg farddlef efell
10 benfras ni bv wowdwas well
11 bv ddewr hael ni bydd y Rawg
12 gormail mydyr gwr mal madawg
13 o fedrv talm o fydroethdd
14 o gerdd dda ag arwydd oedd
15 o ddisgybl serch a ddysgaid
16 o ddigrifwch fflwch a fflaid
17 o gariad yn anad neb
18 oddaith henw i ddoethineb
19 dygyn ymlwyddyn ymloedd
20 dwyn madawg dinam ydoedd
21 vthyr ywr gwyddn am athro gwyr
22 disgibl yn fyw nid esgyr
23 pill eglvr penadvr pwyll
24 pavn da ddadyl pond oedd ddidwyll
25 kad taradr kevdawd tirion
26 kanwyr y synwyr a son
27 kwpls berffeithgerdd ferddin
28 kwpl porthloedd gweligoedd gwin
29 a thamper o ddewis mis mai
30 a thrwmpls y gerdd ai thrimplai
31 a chor y serch a chariad
32 a choprs kerdd fv a chiprs kad
33 [123] pver organ degan digeirdd
34 penaeth barddiniaeth beirdd
35 di aml avr mal ai talai
36 di arail fydd manddail mai
37 di hoywfro bardd di hyfryd
38 di gowydd i bydd y byd
39 di gerdd eos berdlos bach
40 dwf agses eigr diwagsach
41 di barch fydd bedw nis kedwyn
42 da beth oedd dy obaith yn
43 kwpwl ewybr kapel awen
44 kopyr pawb wrthaw gwaglaw gwen
45 gwladaidd oedd y gwledydd e ddyw
46 o bai fyd na bai ef yn fyw
47 gwae feirddlv gwayw i farddlef
48 gida duw i gadwyd ef
Dauidd ap gwillim ai kant