{Marwnad Madog Benvras}
1 Ridill hudolaidd rhydwn
2 rhyw vyd ar i hyd yw hwn
3 y macwy llawen heno
4 hyfryd i vywyd a vo
5 breuddwyd aruthr ebrwyddarw
6 a dry y voru yn varw
7 pam im cen awen ewybr
8 pefr orgraph oleubraph lwybr
9 am Vadog varddlef evell
10 Benvras ni bu owdlwas well
11 bu ddewr hyf ni bydd yrrhawg
12 ormail mydr wr val Madawg
13 [305] O vedru talm o vydroedd
14 o gerdd dda ag arwydd oedd
15 o ddwysgwbl gerdd o ddyscaid
16 o ddigryfwch phlwch a phlaid
17 o gariad yn anad neb
18 o ddoeth enw o ddoethineb
19 dengyn ym mlwyddyn ym oedd
20 dwyn Madog dawn ym ydoedd
21 vthr yw gwaew athro gwyr
22 discibl or beirdd nid esgyr
23 pell eglur benadur bwyll
24 pavn da ddadl pand oedd ddidwyl[ ]
25 cad taradr ceidwad tirion
26 cannwyr y synwyr ar son
27 cwplws caniadgerdd Merddin
28 capel porthoedd golygoedd gwin
29 a thampr oddewis Mis Mai
30 a thrwmpls y gerdd ai thrimplai
31 a chor y serch ai chariad
32 a choprys cerdd a chiprys cad
33 pefr organ degan digeirdd
34 penaeth barddiniaeth y beirdd
37 dihoywvro beirdd dihyfryd
38 digywydd y bydd ybyd
35 diaml aur mal nis talai
36 diorddail vydd manddail Mai
39 digerdd eos befrdlos bach
40 dwf acses deigr di voc sach
41 dibarch vydd bedw nis edwyn
42 da beth oedd diobaith yn
43 cwpl ewythr capel awen
44 copr pawb wrthaw gwaglaw gwen
45 gwladaidd oedd gwledydd eiddyw
46 o bai vyd na bai ef vyw
47 gwae varddlu gwiw overlef
48 gyd a Duw i gadwyd ef
Dauid ap Gwilim