â â â Marwnad Gruffudd ab Adda
1â â â Rhagor mawr ger mur gwyngalch
2â â â Lle bo berllanllwyn llu balch
3â â â Bod yn galw is afalwydd
4â â â Eos yn nos ac yn nydd,
5â â â Cathl olaes edn coeth loywlef,
6â â â Cau ei nyth, cerdd cyw o nef;
7â â â Euraid ylf ar we dalfainc,
8â â â Orlais goeth ar irlas gainc.
9â â â Gwedy dêl, gwawd adeilwyn,
10â â â Gwyllt saethydd, llamhidydd llwyn,
11â â â O ddwystreigl brad i ddistryw
12â â â Â bollt bedryollt bedw ryw,
13â â â Cyd bo llawn, dawn dywenydd,
14â â â O berffrwyth gweddeiddlwyth gwydd,
15â â â Y bydd cerdd fydr o hydr hoed
16â â â Heb loyw degan blodeugoed.
17â â â Powys, wlad ffraethlwys ffrwythlawn,
18â â â Pêr heilgyrn pefr defyrn dawn,
19â â â A oedd berllan gyfannedd
20â â â Cyn lladd doethwas â glas gledd.
21â â â Weithian y mae-gwae gwedd-dawd!-
22â â â Beius gweilch heb eos gwawd.
23â â â Adlaw, beirdd awdl heb urddas,
24â â â Ydyw hon, caseion cas.
25â â â Osid trymoch es trimis,
26â â â -Och!-ni bu och na bai is
27â â â Cyn no chyhwrdd, lewfwrdd lid,
28â â â Awch arf yn lle ni cherid.
29â â â Gruffudd gerdd bêr, f'ederyn,
30â â â Fab Addaf, difeiaf dyn,
31â â â Pob dyn disalw a'i galwai,
32â â â Pendefig mireinfrig Mai,
33â â â Ac organ dra diddan draidd
34â â â Ac aur eos garuaidd;
35â â â Gwenynen gwawd barawdwir,
36â â â Gwenwyn doeth, Gwenwynwyn dir.
37â â â Gruffudd fab Addaf ap Dafydd,
38â â â Yng nghôr Dolgellau ynghudd,
39â â â Dyrys i'w gâr ei daraw,
40â â â Dewr o lid, â dur i'w law.
41â â â Arf a roes, eirioes orofn,
42â â â Ar fy mrawd, gleddyfawd ddofn;
43â â â Troi awch y cledd-pand truan?-
44â â â Trwy felynflew dyn glew glân,
45â â â Trawiad un lladdiad â llif,
46â â â Toriad hagr trwy iad digrif,
47â â â Trwy fanwallt gwalch o falchlin.
48â â â Och fi ddäed awch ei fin!
49â â â Dig wyf, un drawiad â gwydd,
50â â â Deuddryll, gormodd gwladeiddrwydd.
51â â â Deurudd loyw, angel melyn,
52â â â Dwred aur, deryw y dyn.