Marwnad Gruffudd ab Adda
Hynodrwydd anghyffredin ger muriau gwyngalchog
lle y byddai coed perllan tyrfa syberw
fod eos [yno] yn canu o dan y coed afalau
4 bob nos a phob dydd,
aderyn a'i ddatganiad yn gaboledig a disglair, ei gân yn
un hirfaith,
cerdd yr aderyn nefolaidd, diddos yw ei
nyth;
euraid ei big [a'i] gerddi brodiedig ar y bwrdd uchaf,
8 swn cywrain cloch ar gangen iraidd a glas.
Ar ôl i saethydd anystywallt ddod,
un sy'n ysboncio yn y llwyn [a chanddo] ganiadau moliant ym
mhlethwaith y coed,
ar ymdaith alaethus a bradwrus,
12 a chanddo saeth a'i blaen yn chwarterog i ddifetha rhywogaeth y
coed bedw,
serch y byddai'r coed a'u cynnyrch hyfryd yn llawn o ffrwythau
melys,
rhodd sy'n gyfrwng hyfrydwch,
bydd mesurau cerdd oherwydd chwithdod dwys
16 heb drysor disglair y coed blodeuog.
Powys, gwlad dra phrydferth a thoreithiog,
[gwlad] cyrn yfed melys [mewn] tafarnau hyfryd [sy'n llawn]
rhoddion,
llety megis perllan oedd hi
20 cyn lladd y llanc dysgedig â chleddyf glas.
Erbyn hyn y mae (gresyn oherwydd yr amddifadrwydd)
[ei] boneddigion yn amddifad heb eos moliant.
Isel, ni pherthyn urddas i feirdd awdl,
24 ydyw hon, gelynion creulon [yn hytrach].
Os oes galar trwm ers tri mis,
(och!) ni bu och [cyn hyn] na buasai yn llai hyglyw
cyn i awch arf ddod i gyffyrddiad, llef [sy'n ganlyniad]
digofaint eithafol,
28 â man lle na ddymunai neb [iddo fod].
Gruffudd ab Adda a'i gerdd swynol,
fy aderyn, gwr hynod o lân [ei fuchedd],
byddai pob gwr urddasol yn galw amdano,
32 tywysog [ar] frigau prydferth mis Mai,
ac organ a threiddiad [ei swn] yn [gyfrwng] diddanu
ac eos annwyl a bonheddig;
gwenynen tiriogaeth Gwenwynwyn a'i moliant yn barod ac yn
ddiffuant,
36 gwenwyn a ddaeth.
Gruffudd mab Adda ap Dafydd,
y mae wedi ei gladdu yng nghôr [eglwys] Dolgellau,
garw oedd i un o'i dylwyth ei daro,
40 dewr [ydoedd] yn [ei] ffyrnigrwydd, â [chleddyf] dur yn
ei law.
Rhoddodd arf ar fy mrawd,
gwaniad dwfn â chleddyf, llawn ofn ydoedd wrth natur;
taro blaen y cleddyf (onid gresynus [fu hyn]?)
44 trwy wallt melyn gwr dewr a phur,
ergyd megis ergyd llif,
toriad creulon trwy benglog [gwr] tirion
[a] thrwy wallt mân gwr bonheddig o dras
urddasol.
48 Gresyn fod ei flaen cyn finioced.
Yr wyf yn ddig ac yn ddrylliedig,
un ergyd â [lladd] gwydd, anfoesgarwch eithafol.
[Un a chanddo] ruddiau gloywon, angel disglair,
52 twr euraid, darfu'r dyn.