barddnad gruffydd ap Adda ap Davydd o waith Davydd ap gwilim
1 Rhagor mawr gaerRhwng mur gwngalch
2 lle bo pyrllanwydd llu balch
3 bod yn galw is y falwydd
4 Eos y nos ag yn nydd
5 kathl oloes Edn koeth loewlef
6 kau nyth clo kerdd kyw o nef
7 euraid lef ar wef dalfaingc
8 eurlais koeth ar irlaes kaingc
9 gwedi del gwawd o deylwyn
10 gwylld seythydd llamhidydd llwyn
11 o ddwysgreffd barod ddysgryw
12 a bolld bedwar holld bedw rhyw
15 ni bydd kerdd fydr hoew hydr hoed
16 heb loy w degan blodevgoed
17 powys gwlad ffraethlwys ffrwythlawn
18 [ ] helgyrn i ber ederyn dawn
19 e fu berllan gyfanedd
20 kyn lladd dewrwas a glas gledd
21 weithian mae gwae gwedddawd
22 beuys gweilch heb eos gwawd
24 ydyw hon kofeion kas
23 adle beirdd owdl heb vrddas
25 ochoes trymoch ys trimis
26 och ni bu och na bae is
27 kyn och kyfwrdd lefwrdd lid
28 o awch arfoer lle ni cherid
29 gruffydd gerdd ber yderyn
30 fab Adda difeia dyn
31 pob dyn disalw ai galwai
32 pen defig mireinfrig mai
33 ag Organ dra diddan draidd
34 ag aur Eos gyrvaidd
35 gwenynen serchglod barodwir
Anherchir
36 gwenwyn doeth gwenwynwynt hir
37 gruffydd ap Adda ap dafydd
38 ynghor dolgelle sy nghydd
39 dyrys fyoedd yw gar i daraw
40 dewr o lid a dur oi law
47 trwy fanwalld y gwalch balchlin
48 och fi ddaed fu awch i fin
41 Arf a roes eirioes orofn
42 ar fy mrawd gelfydddawd ddofn
43 Tra awch i gledd pand truan
44 trwy felynflew dyn glew glan
45 toriad fal lladdiad a llif
46 trawiad hagr trwy iad digrif
49 dig wyf vn doriad a gwydd
50 deuddryll heb ddim gwladeiddrwydd
51 dau ruddliw Angel melyn
52 diriaid oedd daraw y dyn
dd ap gwilim