marwnad gruff ap Adda ap dafydd a las yn dolgellau mi a welais y
penglog ar briw yn fawr ar arsgwrn tew yn nolgellau mai rhai (fal i clowais i)
yn camarfer yrowron y pen hwnw i yfed peth o honaw rhag y pas a doluriau
eraill
1 Rhagor mawr gaerau murgwngalch
2 lle bo{u} perllanwydd llu balch
3 fod yn galw is dyfalwydd
4 eos yn nos ag yn nydd
5 cathyl o lais edn coeth loywlef
6 gain nyth fegis cyw o nef
7 eurfawl i lef ar wrolfainc
8 eurlwys goeth ar irlas gainc
9 gwedi doe gwawd a deilwyn
10 gwyllt seithydd llamhidydd llwyn
11 o ddwysdraul brad yw ddistryw
12 a bollt bedeirollt bedwryw
13 cyd bai llawn dawn dy wenydd
14 o befrlwyth gweddeiddlwyth gwydd
15 ni bu cerdd fydr dihydr hoed
16 heb loyw degan blodeugoed
17 Powys wlad ffraethlwys ffrwythlawn
18 prif helgyrn per defyrn dawn
19 ir oedd organ gyfannedd
20 cyn lladd Doethwas a glas gledd
21 bellach i mae gwae gwedd tawd
22 Bowys gwydd heb eos gwawd
37 {Gruffydd ap Adda 'p dafydd
38 ynghor dolgellau ynghudd}
23 [253r] adle beirdd owdyl heb urddas
24 ydiw hon cyson i cas
25 och awch trymoch ers trimis
26 och ni bu och na bai is
27 am gyffwrdd llew agwrdd llid
28 awch arf yn lle ni cherid
29 Gruffydd gerdd ber federyn
30 fab Addaf difeia dyn
31 pob dyn disalw ai galwai
32 pendefig mireinfrig mai
33 ag organ dra diddan draidd
34 a gwawr eos garuaidd
35 gwenynen gwawd barawdwir
36 gwanniwyn doeth gwenwyn i dir
39 diriaid yw gâr i daraw
40 dewr o lid a dur oi law
47 drwy fanwallt gwalch o falchlin
48 och fi ddaed oedd awch i fin
45 trawiad un lladdiad a lli
46 torriad hagr trwy iad digri
43 troi awch y cledd pand truan
44 trwy felynflew dyn glew glan
41 arf a roes eiroes arofn
42 ar fy mrawd gleddyfawd ddofn
49 dig wyf or lladdiad im gwydd
50 deuddryll heb ddim gwladeiddrwydd
51 deurydd loyw angel melyn
52 dwred ayr deryw y dyn
Dafid ap Gwilym ai cant
Nodiadau
Ychwanegwyd y nodyn:
ir oedd y penill hwn yn y cowydd fry ac os gatfydd un ychwaneg
mewn copi a welais ers talm ond nad oes mo hwnw gida mi o chewch i weled rhowch
hwy yn i cyfle