{marwnad am brydydd}
1 Ragawr mawr gaer mvr gwyngalch
2 lle bu berllanllwyn llu balch
3 bod yn galw is avalwydd
4 eos yn nos ag yn nydd
5 cathl olaes edn coeth loywlef
6 cau nyth megys cyw o nef
7 eurwawd lef ar weddeiddvainc
8 orlais goeth ar irlwys gainc
9 gwedy del gwawd adeilym
10 gwyllt seuthydd llamidydd llym
11 o ddwystraul brad i ddystryw
12 a bollt bedryollt bedwryw
13 cyd bai llawn dawn dy'wenydd
14 o berfrwyth gweddeiddlwth gwydd
15 [274] y bydd cerdd vydr o hydr hoed
16 eb loyw degan blodeugoed
17 Powys gwlad fraethlwys frwythlawn
18 per heilgyrn pefr devyrn dawn
19 a oedd berllan gyfanedd
20 cyn lladd doethwas a glas gledd
21 bellach y mae wae wedddawd
22 beivs gweilch eb eos gwawd
23 adlaw beirdd owdl eb vrddas
24 a ydyw hon cofion cas
25 os id trymoch ers trimis
26 och ni bu och na bai is
27 am gyhwrdd lef agwrdd lid
28 awch arf yn lle ni cherid
29 Gruffudd gerdd ber ederyn
30 vab Adda diveia dyn
31 pob dyn disalw ai galwai
32 pendevig mvreinvrig mai
33 ag organ dra diddan draidd
34 ag aur eos garuaidd
35 gwenynen serch barawdwir
36 gwenwyn dtoeth gwenwynwyn
dtir
39 dyrys yw gar i daraw
40 dewr o lid a dur yw law
41 arf a roes eirioes orofn
42 ar vymrawd gleddyfawd ddofn
47 drwy vanwallt gwalch o valchlin
48 och vi ddaed oedd awch i vin
43 triawch y cledd pand truan
44 trwy velynvlew dyn glew glan
45 trawiad vn lladdiad a llif
46 torriad hagr trwy iad digrif
49 dig wyf vn dorriad a gwydd
50 deuddryll ond oedd wladeiddrwydd
51 deurudd liw angel melyn
52 dwred aur deryw y dyn
Dauid ap Gwilim
Thom. William medicus nunc libra propria manuscriptisse fertun