â â â Marwnad Gruffudd Gryg
1â â â Tost oedd ddwyn, trais cynhwynawl,
2â â â Tlws o'n mysg, Taliesin mawl.
3â â â Tristeais, nid trais diarw,
4â â â Trwm, oer, fal y trywyr marw.
5â â â Treiwyd gwawd, nid rhaid gwadu,
6â â â Tros fyd, gwladeiddiaf trais fu.
7â â â Tros fy ngran, ledchwelan lif,
8â â â Try deigr am wr tra digrif.
9â â â Gruffudd, huawdl ei awdlef,
10â â â Gryg ddoeth, myn y grog, oedd ef.
11â â â Ys dig am ei ostegion,
12â â â Ysgwîr mawl, eos gwyr Môn,
13â â â Lluniad pob dyall uniawn
14â â â A llyfr cyfraith yr iaith iawn,
15â â â Agwyddor y rhai gwiwddoeth
16â â â A ffynnon cerdd a'i phen coeth,
17â â â A'i chyweirgorn, ddiorn dda,
18â â â A'i chyweirdant, och wyrda!
19â â â Pwy a gân ar ei lân lyfr,
20â â â Prydydd Goleuddydd liwddyfr?
21â â â Parod o'i ben awengerdd,
22â â â Primas ac urddas y gerdd.
23â â â Ni chair sôn gair o gariad,
24â â â Ni chân neb, gwn ochain, nâd,
25â â â Er pan aeth, alaeth olud,
26â â â I dan fedd i dewi'n fud.
27â â â Ni chwardd udfardd o adfyd,
28â â â Ni bu ddigrifwch o'r byd.
29â â â Ni bu edn glân a ganai,
30â â â Nid balch ceiliog mwyalch Mai.
31â â â Ni chynnydd mewn serch annog,
32â â â Ni chân nac eos na chog,
33â â â Na bronfraith ddwbliaith ddiblyg
34â â â Ni bydd gwedy Gruffudd Gryg,
35â â â Na chywydd dolydd na dail,
36â â â Na cherddi, yn iach irddail!
37â â â Tost o chwedl gan fun edlaes
38â â â Roi 'nghôr llawn fynor Llan-faes
39â â â Gimin, dioer, gem a'n deiryd,
40â â â O gerdd ag a roed i gyd.
41â â â Rhoed serchowgrwydd agwyddor
42â â â I mewn cist ym min y côr.
43â â â Cist o dderw, cystudd irad,
44â â â A gudd gwalch y gerdd falch fad;
45â â â O gerddi swllt, agwrdd sâl,
46â â â Ni chaid un gistiaid gystal.
47â â â O gerdd euraid gerddwriaeth
48â â â Dôi'i rym i gyd yn derm gaeth.
49â â â Llywiwr iawngamp llariangerdd,
50â â â Llyna gist yn llawn o gerdd!
51â â â Och haelgrair Dduw Uchelgrist,
52â â â Na bai a egorai'r gist!
53â â â O charai ddyn wych eirian
54â â â Gan dant glywed moliant glân,
55â â â Gweddw y barnaf gerdd dafawd,
56â â â Ac weithian gwan ydiw'n gwawd.
57â â â Ef aeth y brydyddiaeth deg
58â â â Mal ar wystl, mul yw'r osteg.
59â â â Gwawd graffaf gwedy Gruffudd
60â â â Gwaethwaeth heb ofyddiaeth fydd.
61â â â Edn glwys ei baradwyslef,
62â â â Ederyn oedd o dir nef.
63â â â O nef y doeth, goeth gethlydd,
64â â â I brydu gwawd i bryd gwydd;
65â â â Awenfardd a fu winfaeth,
66â â â I nef, gwiw oedd ef, ydd aeth.