Marwnad Gruffudd Gryg
Enbyd oedd cipio (trais cynhenid)
gem o'n plith, Taliesin mawl.
Tristáu a wneuthum, nid trais tyner mohono,
4 ond trais llym ac erchyll fel y tri gwr marw.
Mae barddoniaeth (afraid gwadu) wedi ei gyrru ar drai
drwy'r byd, dyma'r trais mwyaf anfoesgar a fu erioed.
Dros fy ngrudd (llifeiriant ynfyd)
8 treigla dagrau o achos gwr dymunol iawn.
Gruffudd (huawdl ei gân)
Gryg ddoeth, myn y groes, oedd hwnnw.
Mae digofaint oherwydd ei gerddi,
12 sgwâr saer mawl, eos gwyr Môn,
lluniwr pob synnwyr cywir
a llyfr cyfraith yr iaith briodol,
safon y rhai teilwng a doeth
16 a ffynnon cerdd a'i phennaeth coeth,
a'i chorn tiwnio (cerdd ddi-fefl dda)
a'i chyweirdant, gwae ni, foneddigion!
Pwy fydd yn canu bellach ar ei lyfr hardd,
20 prydydd Goleuddydd o liw'r dyfroedd?
Deuai cerdd awenyddol yn rhwydd o'i enau,
pennaeth ac urddas y gerdd.
Ni sonnir gair am gariad,
24 ni chân neb ('rwy'n gyfarwydd ag ochenaid) yr un
gân,
ers iddo fynd (cyfoeth truenus)
o dan fedd i dewi'n fud.
Ni chwardd bardd dolefus gan drallod,
28 ni fu llawenydd yn y byd.
Ni fynnai'r un aderyn teg ganu,
nid oes yr un o geiliogod mwyalch Mai yn falch bellach.
Ni ffynna yn y gwaith o hybu serch
32 ac ni chân eos na chog,
ac ni fydd bronfraith gymwys ei hiaith ddyblyg
mwyach ar ôl Gruffudd Gryg,
na chywydd i ddolydd na dail,
36 na cherddi, ffarwél ddail gleision!
Newydd enbyd i ferch wylaidd
fu rhoi yng nghangell farmor wych eglwys Llan-faes
gymaint, Duw a wyr (trysor sy'n perthyn i ninnau),
40 o ganu ag a roddwyd ynghyd.
Rhoddwyd hanfod cariad
mewn arch yng nghwr y gangell.
Mae arch o dderw (gofid erchyll)
44 yn gorchuddio gwalch y gerdd falch dda;
o gerddi anwylyd (gwobr braff)
ni chafwyd erioed lond arch cystal â hwnnw.
O ran cerdd prydyddiaeth ddisglair
48 deuai ei holl rym yn gaeth i derfyn.
Rheolwr gorchestol cerdd fwyn,
dyna arch yn llawn o farddoniaeth!
Och Dduw, Anwylyd hael, Crist yn y goruchaf,
52 na byddai neb yn mentro agor yr arch!
Os carai merch wych brydferth
glywed moliant teg i gyfeiliant telyn,
barnaf fod cerdd dafod yn weddw,
56 a gwan bellach yw'n barddoniaeth.
Mae'r brydydiaeth hardd
fel petai wedi ei gwystlo, trist yw'r gân.
Ar ôl Gruffudd bydd y farddoniaeth sicraf
60 yn mynd o ddrwg i waeth heb gelfyddyd Ofydd.
Aderyn pur ei lais paradwysaidd,
aderyn o dir y nef ydoedd.
O'r nef y daeth, y cantor coeth,
64 i lunio mawl i harddwch coed;
bardd awengar a fagwyd ar win,
i'r nef (teilwng oedd ef) yr aeth.