{Mar. Gr. Gryg}
1 Trist oedd ddwyn trais kynhwynawl
2 tlws on mysg taliesin mawl
3 trist eres nid trais diarw
4 trwm oer fal i try y marw
5 treiwyd gwawd nid rhaid gwadv
6 tros fyd gwladeiddia trais fv
7 tros fynghanran ledchwelan lif
8 tri deigr am wr tra digrif
9 gryffydd hyawdl i awdlef
10 gryg ddoeth myn y grog oedd ef
11 oes dig am i ostegion
12 ysgwir mawl eos gwyr mon
13 llyvniad pob dyall vniawn
14 a llyfr cyfraith yr iaith iawn
15 a gwyddor y rhai gwiwddoeth
16 affynnon cerdd a phen coeth
17 ai chyweirgorn diorn
dda
18 a chwirdant yn iach wyrda
19 pwy a gân ar i lan lyfr
20 prydydd golevddydd gloywddyfr
21 amal oi ben awengerdd
22 primas ag vrddas y gerdd
23 ni chair son gair o gariad
24 ni chan neb gwn ochain nad
25 [350] er pen aeth alaeth olvd
26 dan i fedd i dewi /n/ fvd
27 ni chwardd vdfardd o adfyd
28 ni bydd ddigrifwch in byd
29 ni bydd edn glan a ganai
30 nid balch ceiliog mwyalch mai
31 ni chynydd mewn serch enwog
32 ni chan nag eos na chog
+1 nag eos yn agos yn i
+2 mewn gwyrddail yn y gerddi
33 na bronfraith ddwbl iaith ddiblyg
34 ni bydd gwedi gryffydd gryg
35 na chywydd dolydd na dail
36 na cherddi yn iach irddail
37 tost o chwedxl gan fvn edlaes
38 rhoi /n/ ghor llawn fynor llanfaes
39 gimin dioer gem an deiriyd
40 o gerdd ag a roed i giyd
41 rhoed serchowgrwydd y gwyddor
42 y mewn cist ymin y cor
45 o gerdd swllt yn agwrdd sal
46 ni chaid vn gistiaid gystal
47 o gerdd evraid gerddwriaeth
48 doe rwym i gyd yn derm gaeth
49 llywiwr iowngamp llawr angerdd
50 llyna gist yn llawn o gerdd
51 och haelgrair nef vchelgrist
52 na bai a egorai r gist
53 o charai ddyn wych eiriav
54 gan dant glywed moliant mav
55 gweddw /i/ barnaf gerdd dafawd
56 ag weithian gwan iw yn gwawd
61 [351] edn glwys i baradwyslef
62 ederyn oedd o dir nef
63 or nef y doeth goeth gethlydd
64 i brydyv gwawd abryd gwydd
65 awenfardd a fv winfaeth
66 ir nef gwiw oedd ef i ddaeth
dafydd ap gwylym ai cant