{ko. marwnad Gruffudd Gryg ag ynte yn fuw}
1 Trist oedd ddwyn trais cynhwynawl
2 tlws on mysg Taliesin mawl
3 trwst eres nid trais diarw
4 trwm oer mal y try y marw
5 treiwyd gwawd nid rhaid gwadu
6 tros vyd gwladeiddia trais vv
7 tros vyngran ledchwelan lif
8 triy deigr am wr tra digrif
9 Gruffudd huowdl i owdle
10 Gryg ddoeth myn y grog oedd e
11 oes dig am i osdegion
12 ysgwir mawl eos gwyr Mon
13 llvniad pob deall vniawn
14 a llyfr cyfraith yriaith iawn
15 ogwyddor y rhai gwiwddoeth
16 a phynnon cerdd a phen coeth
17 ai chyweirgorn ddiorn dda
18 ai chweirdant och wyrda
19 pwy a gan ar i lan lyfr
20 prydydd goleuddydd liwddyfr
21 aml vv oi ben awengerdd
22 Primas ag vrddas y gerdd
23 ni chair son gair o gariad
24 ni chan neb gwn ochain nad
25 er pan aeth alaeth olud
26 y dan vedd idewin vud
27 ni chwardd vdvardd o advyd
28 ni bu ddigrifwch or byd
29 [368] ni bu edn glan a ganai
30 nid balch ceiliog mwyalch Mai
31 ni chynnydd mewn serch annog
32 ni chan nag eos na chog
+1 nag eos yn agos i ni
+2 nag irddail yn y gerddi
33 na bronvraith ddwbliaith ddyblyg
34 ni bydd wedy Gruffydd gryg
35 na chywydd dolydd na dail
36 na cherddi yn iach irddail
37 tost o chwedl gan vvn edlaes
38 roi 'nghor llawn vynor llan vaes
39 gimin dioyer gem ei deiru{y}d{d}
40 o gerdd ag a roed igu{y}d{d}
41 rhoed serchowgrwydd ygwyddor
42 y mewn cist y min y cor
45 o gerdd swllt agwrdd arsal
46 ni chaid vn gistiaid gystal
47 o gerdd euraid gerddwriaeth
48 doe rym igyd yn derm gaeth
49 llywiwr vngamp llariangerdd
50 llyna gist yn llawn o gerdd
51 och haelgrair Vair vchelghrist
52 na bai a egorai'r gist
53 o charai ddyn wych eirian
54 gan dant glywed moliant glan
55 gweddw i barnaf gerdd davawd
56 ag weithian gwan ydyw gwawd
61 edn glwys i baradwys lef
62 ederyn yw o dir nef
63 or nef y doeth goeth gethlydd
64 i brydu gwawd i bryd gwydd
65 awenvardd awen winvaeth
66 ir nef gwiw oedd ef yddaeth
Dauid ap Gwilim ai Cant
Nodiadau
32 nag eos - wedi'i danlinellu. Rhywbeth wedi'i ysgrifennu
uwchben ond wedi'i ddileu wedyn
42 + cist o dderw cystudd irad
a gudd gwalch y gerdd valch vad
56 + ef aeth y brydyddiaeth deg
mal ar wystl mvl ywr osteg
drwy dduriaw y gerddwriaeth
yn drom ygyd or derm gaeth
gwawd graffa gwedi gruffydd
[ ]waeth eb ovyddiaeth [ ]