llyma gowydd mawnad gryffydd gryg o waith dd ap gwilim
1 Tost oedd ddwyn tyst hawddamawr
2 tlws on mysg taliesin mawl
3 tristeis nid trais diarw
4 trwm oes fal i tryr marw
5 trawyd gwawd nid rhaid gwady
6 tros fyd gwladeiddia trais fy
7 troes fy rhan loyw lan lif
8 tri deigr am wr tra digrif
9 [77] gryffydd hyawdl i wawdlef
10 gryg ddoeth myn y grog oedd ef
11 oes dig am i ostegion
12 ysgwier mawl eos gwyr mon
13 lliniay bob dyall iniawn
14 a llyfr kyfraith yr iaith iawn
15 a gwyddor y rhai gwiwddoeth
16 a ffynon kerdd a ffen koeth
17 ai chyweirgorn ddiorn dda
18 ai choweirdant och wyrda
19 pwy a gan ar i lan lyfr
20 prydydd goleyddydd liw ddyfr
21 parod oi ben awengerdd
22 prifwas ag vrddas y gerdd
23 ni chair son gair o gariad
24 ni chan neb gan ochain nad
25 er pen aeth alaeth olyd
26 dan i fedd i dewi yn fyd
27 ni chwardd vdfardd mewn adfyd
28 ni bydd degrifwch y byd
29 nid byw edn glan a ganai
30 nid balch keiliog mwyalch mai
31 ni chynydd fain serch enwog
32 ni chan nag eos na chog
33 na bronfraith ddwbl iaith ddyblyg
34 ni bydd wedi gryffydd gryg
35 na chowydd dolydd na dail
36 na cherddau yn iach irddail
37 tost o chwedel gan fyn edlaes
38 roi ynghor llawn fanonor llan faes
39 gimin draw or gemay dryd
40 gof roddiad o gyfrwyddyd
41 [78] Rhoed serchowgrwydd agwyddor
42 ymewn kist ymin y kor
45 o gerddau soniau nid sal
46 ni chaid vn gistiaid gystal
43 kist a derw kestied irad
44 a gydd gwalch ar gerdd falch fad
47 o gerdd euraist gerddwriaith
48 ond oer ym gyd yn derm gaeth
49 llawiwr iowngamp llawengerdd
50 llyna gist yn llawn o gerdd
51 och hael grair dduw ychelgrist
52 na bai a egora/r/ gist
53 o charai ddyn wych eirian
54 gan dant glowed moliant glan
55 gwedd o barnaf gerdd dafawd
56 ag weithian gwan yw/n/ gwawd
57 ef aeth y brydyddiaith deg
58 mal ar wystl mawl ar osteg
59 gwawd graffwaaidd gwedi gryffydd
60 waeth waeth y brydyddiaith brydd
61 edn glwys i bradwyslef
62 ederyn oedd o dir nef
63 or nef i doeth goeth gethlydd
64 i brydu gwawd i gryd gwydd
65 awenfardd awen winfaeth
66 i nef gwiwf oedd gwae fi faeth
dd ap gwilim ai kant