{marwnad am ruffudd gryc o wynedd ac yntau n fyw}
1 Trist vu ddwyn trais kynhwynawl
2 Tlws on mysc taliessin mawl
5 Treiwyd gwawd nid rraid gwadv
6 Tross fyd gwladeiddiaf trais fv
3 Tristeais nid trais diarw
4 Trwm oer fal i try y marw
7 Tros vyngrann ledchwelann lif
8 Try deigr am wr tra digrif
9 Gruffudd hvawdl i odle wawdlef
10 Gryc ddoeth myn y groc oedd ef
15 agwyddor y rrai gwiwddoeth
16 a ffynnon kerdd a ffenn koeth
13 llinyn i bob dall vniawn
14 a llyfr kyfraith ir iaith iawn
11 oes dic am i ostegion
12 ysgwir mawl eos gwyr mon
17 ai chyweirgorn diorn da
18 ax chyweirdant och wyrda
19 [375r] pwy a gan ar i lan lyfr
20 prydydd golevddydd gloywddyfr
21 parod oi benn awengerdd
22 preimas ac vrddas y gerdd
23 ni chair son gair o gariad
24 ni chan neb gan ochain nad
25 Er pann aeth alaeth olvd
26 dann i fedd i dewi /n/ fvd
27 ni chwardd vdfardd mewn adfyd
28 ni bydd digrifach or byd
29 ni bv Edn glan a ganai
30 nid balch keilioc mwyalch mai
31 ni chynnydd mewn serch annoc
32 ni chan na hedydd na choc
+1 nac eos y nos i ni
+2 nac irddail yn y gerddi
33 na na bronnfraith ddwbliaith ddiblyc
34 ni bydd gwedi gruffydd gryc
35 [375v] na chowydd dolydd na dail
36 na cherddi yn iach irddail
37 tost o chwedl gann fvn Edlaes
38 roi nghor llawn fynor llann faes
39 gimain dioer gem an dieryd
40 o gerdd ac a roed i g gyd
41 Rroed serchowgrwydd agwyddor
42 Ymewn kist ymin y kor
45 o gerddi swllt agwrdd sal
46 a gaid vn gistiaid gystal
47 o gerdd evraid gerddwriaeth
48 dioer ym i gyd yn derm gaeth
43 kist a derw kystaid irad
44 a gvdd gwalch ar gerdd falch fad
49 llirwiw iowngamp llariangerdd
50 llyna gist yn llawn o gerdd
51 och hael grair nef vchelgrist
52 na bai a egorai /r/ gist
53 o charai ddyn wych eirian
54 gann dant glywed moliant man
55 [376r] Gweddw y barnaf Gerdd dafawd
56 ac weithiann ymae gwann gwawd
57 ef aeth y brydyddiaeth dec
58 mal arr wystl mvl yw /r/ ostec
59 Gwawd graffwaith gwedi gruffudd
60 Gwaethwaeth y brydyddiaeth brvdd
61 G Edn glwys i
bad baradwyslef
62 aderyn avr o dir nef
63 o nef i doeth goeth gethlydd
64 i brydv gwawd i bryd gwydd
65 awenfardd a fv winfaeth
66 i nef gwiw oedd ef i ddaeth
dafudd ap Gwilym ai kant