grvffvdd gryg
1 trist oedd ddwyn trais kynhwynawl
2 tlws on mysg taliesin mawl
3 trwst eres nid trais diarw
4 trwm oer mal y try ymarw
5 treiwyd gwawd nid rhaid gwadv
6 tros fyd gwladeiddia trais fv
7 tros fyngran ledchwelan lif
8 try deigr am wr tra digrif
9 grvffvdd hvavdl i awdlef
10 gryg ddoeth myn y grog oedd ef
11 oes dig am i ostegion
12 ysgwir mawl eos gwyr mon
13 llvniad pob devall vniawn
14 a llyfr kyfraith yr iaith iawn
15 [103r] A gwyddor yrhai gwiwddoeth
16 A ffynon kerdd a ffen koeth
17 Ai chywirgorn ddiorn dda
18 Ai chywirdant och wyrda
19 pwy a gan ar i lan leyfr lyfr
20 prydydd golevddydd liwddyfr
21 Aml oi ben awengerdd
22 primias ag vrddas y gerdd
23 ni chair son gair o gariad
24 na chai gan ochain anad
25 er pan aeth alaeth olvd
26 dan fedd i dewi yn fvd
27 ni chwardd vdfardd o adfyd
28 ni bv ddigrifwch or byd
29 ni bv edn glan a ganai
30 nid balch keilog mwyalch mai
31 ni chynnydd mewn serch annog
32 ni chan na hedydd na chog
+1 nag eos y nos ini
+2 nag irddail yn y gerddi
33 [103v] na bronfraith ddwbliaith ddyblyg
34 ni bydd wedi grvffydd gryg
35 na chywydd dolydd na dail
36 na cherddi yniach irddail
37 tost o chwedl gan fvn edlaes
38 roi ynghor llawn fynor llanfaes
39 gimin dioer gem ai deirvdd
40 o gerdd ag a roed i gvdd
41 rhoed serchowgrwydd y gwyddor
42 mewn kist y min y kor
43 kist o dderw kystvdd irad
44 A gvdd gwalch y gerdd falch fad fad
45 o gerdd swlld agwrdd sal
46 ni chaid vn gistiaid gystal
47 o gerdd evraid gerddwriaeth
48 doe rym i gyd yn derm gaeth
49 llywiwr iowngamp llariangerdd
50 llyna gist yn llawn o gerdd
51 och haelgrair fair vchelgrist
52 na bai a egorai y gist
53 [104r] o charai ddyn wych eirian
54 gan dant glywed moliant glan
55 gweddw i barnaf gerdd dafawd
56 ag weithian gwan ydiw gwawd
57 ef aeth y brydyddiaeth deg
58 mal ar wystl mvl yw r osteg
+3 drwy ddvriaw y gerddwriaeth
+4 yn drom i gyd or derm gaeth
59 gwawd graffa gwedi grvffydd
60 waethwaeth eb ofvddiaeth fydd
61 edn glwys i baradwys lef
62 edyryn yw o dir nef
63 or nef ydoeth goeth gethlydd
64 i brydv gwawd i bryd gwydd
65 Awenfardd awen winfaeth
66 ir nef gwiw oedd ef yddaeth
dafydd ap gwilym