â â â Cywydd Ymryson Cyntaf Gruffudd Gryg
1â â â Truan mor glaf yw Dafydd,
2â â â Trwyddew serch trwyddo y sydd.
3â â â Eres i Ddafydd, oeryn,
4â â â Fab Gwilym Gam, ddinam ddyn,
5â â â Gwas tra hy, cywely cawdd,
6â â â Gwewyr ganwaith a'i gwywawdd.
7â â â Hefyd y mab anhyfaeth
8â â â Yn llochi cerdd llechau caeth.
9â â â Maith eiddilwaith ei ddolef,
10â â â Ym mam Dduw, y mae, medd ef,
11â â â Artaith druan ar Gymro,
12â â â Eres yw ei fyw efô.
13â â â Ym mhob ryw fan, gran grynnwyf,
14â â â Mair a glyw, un mawr ei glwyf,
15â â â Yn difa holl gorff Dafydd
16â â â Gwewyr rif y syr y sydd.
17â â â Och ym os gwayw yw awchlif
18â â â Y sydd yn y prydydd prif.
19â â â Nid gwayw terfysg ymysg mil,
20â â â Nid gwayw iddw, ond gwayw eiddil.
21â â â Nid gwayw yng nghefn, wiwdrefn wedd,
22â â â Nid sylwayw, onid salwedd.
23â â â Nid dygyrch wayw, neud digus,
24â â â Nid gwayw rym, ond gwewyr rus.
25â â â Mae arfau, meistr gweau gwawd,
26â â â Yn gadarn yn ei geudawd.
27â â â Es deng mlynedd i heddiw
28â â â Dafydd a ddywawd, wawd wiw,
29â â â Fod ynddo gant, ond antur,
30â â â O arfau, dyrnodau dur,
31â â â O saethau, cof luddiau cawdd,
32â â â A thrwyddo y cythruddawdd.
33â â â Merfder cadarn oedd arnaw,
34â â â Ym marn gwyr, drwy wewyr draw.
35â â â Mawr o gelwydd, brydydd brad,
36â â â A draethodd Dafydd druthiad.
37â â â Pe bai Arthur, mur mawrgorf,
38â â â A wnaeth ffysg ar derfysg dorf,
39â â â Gwir yw, pe bai'r gwewyr oll
40â â â Cynhyrchol mewn can harcholl,
41â â â Gwyllt ryfel a gynhelis,
42â â â Gwir yw na byddai fyw fis,
43â â â Chwaethach, meinlas yw'r gwas gwiw,
44â â â Gweinidog serch, gwan ydiw.
45â â â Och ym, pei brathai Gymro
46â â â Â gwayw, o Fôn, - on'd gwae fo? -
47â â â Â'i eurllaw ar ei arllost,
48â â â Dan ben ei fron don yn dost,
49â â â Or byddai, awr fawr fore,
50â â â Yn fyw: truan yw ei ne;
51â â â Chwaethach crybwyll, nid pwyll pêr,
52â â â Llewyg am wewyr llawer.
53â â â Ei lyain yw ei leas,
54â â â Ei liw ag arfau a las.
55â â â 'Y nghred, y mab arabddoeth,
56â â â Cyd boed bostus gampus goeth,
57â â â Y gwnâi wr call arallwlad
58â â â Cwyn â saeth frwyn a syth frad.
59â â â Ofn yw iddaw, cyn praw prudd,
60â â â Angau am arfau Morfudd.