| Cywydd Ymryson Cyntaf Gruffudd Gryg | |
| Truan mor glaf yw Dafydd, | |
| Trwyddew serch trwyddo y sydd. | |
| Eres i Ddafydd, oeryn, | |
| 4 | Fab Gwilym Gam, ddinam ddyn, |
| Gwas tra hy, cywely cawdd, | |
| Gwewyr ganwaith a'i gwywawdd. | |
| Hefyd y mab anhyfaeth | |
| 8 | Yn llochi cerdd llechau caeth. |
| Maith eiddilwaith ei ddolef, | |
| Ym mam Dduw, y mae, medd ef, | |
| Artaith druan ar Gymro, | |
| 12 | Eres yw ei fyw efô. |
| Ym mhob ryw fan, gran grynnwyf, | |
| Mair a glyw, un mawr ei glwyf, | |
| Yn difa holl gorff Dafydd | |
| 16 | Gwewyr rif y sŷr y sydd. |
| Och ym os gwayw yw awchlif | |
| Y sydd yn y prydydd prif. | |
| Nid gwayw terfysg ymysg mil, | |
| 20 | Nid gwayw iddw, ond gwayw eiddil. |
| Nid gwayw yng nghefn, wiwdrefn wedd, | |
| Nid sylwayw, onid salwedd. | |
| Nid dygyrch wayw, neud digus, | |
| 24 | Nid gwayw rym, ond gwewyr rus. |
| Mae arfau, meistr gweau gwawd, | |
| Yn gadarn yn ei geudawd. | |
| Es deng mlynedd i heddiw | |
| 28 | Dafydd a ddywawd, wawd wiw, |
| Fod ynddo gant, ond antur, | |
| O arfau, dyrnodau dur, | |
| O saethau, cof luddiau cawdd, | |
| 32 | A thrwyddo y cythruddawdd. |
| Merfder cadarn oedd arnaw, | |
| Ym marn gwŷr, drwy wewyr draw. | |
| Mawr o gelwydd, brydydd brad, | |
| 36 | A draethodd Dafydd druthiad. |
| Pe bai Arthur, mur mawrgorf, | |
| A wnaeth ffysg ar derfysg dorf, | |
| Gwir yw, pe bai'r gwewyr oll | |
| 40 | Cynhyrchol mewn can harcholl, |
| Gwyllt ryfel a gynhelis, | |
| Gwir yw na byddai fyw fis, | |
| Chwaethach, meinlas yw'r gwas gwiw, | |
| 44 | Gweinidog serch, gwan ydiw. |
| Och ym, pei brathai Gymro | |
| Â gwayw, o Fôn, – on'd gwae fo? – | |
| Â'i eurllaw ar ei arllost, | |
| 48 | Dan ben ei fron don yn dost, |
| Or byddai, awr fawr fore, | |
| Yn fyw: truan yw ei ne; | |
| Chwaethach crybwyll, nid pwyll pêr, | |
| 52 | Llewyg am wewyr llawer. |
| Ei lyain yw ei leas, | |
| Ei liw ag arfau a las. | |
| 'Y nghred, y mab arabddoeth, | |
| 56 | Cyd boed bostus gampus goeth, |
| Y gwnâi ŵr call arallwlad | |
| Cwyn â saeth frwyn a syth frad. | |
| Ofn yw iddaw, cyn praw prudd, | |
| 60 | Angau am arfau Morfudd. |