Cywydd Ymryson Cyntaf Gruffudd Gryg
Mae'n drueni mor wael yw Dafydd,
taradr o serch sydd ynddo.
Mae'n beth rhyfedd i Ddafydd, y cnaf,
4 fab Gwilym Gam, y dyn difai,
y gwas hy iawn, cymar digofaint,
poen ganwaith wnaeth iddo nychu.
Hefyd mae'r mab anwar
8 yn anwesu cerdd [mewn] cuddfannau caeth.
Gwaith egwan hir yw ei floedd,
myn mam Duw, y mae, medd ef,
artaith druenus ar Gymro,
12 rhyfedd yw ei fod yn fyw.
Ymhob lle, boch[au] llawn angerdd,
Mair a glyw, un mawr ei glwyf ydyw,
yn difrodi holl gorff Dafydd
16 poenau gymaint â nifer y sêr sydd.
Och i mi os gwayw o yw miniog
sydd yn y bardd blaenllaw.
Nid gwayw brwydr ymysg mil[oedd],
20 nid gwayw tân iddw, ond gwayw gwan.
Nid gwayw yng nghefn, cyflwr gwael,
nid clefyd esgyrn, ond eiddilwch.
Nid gwayw ymosodiad, [un] llidiog ydyw,
24 nid gwayw grymus, ond poenau rhwystredigaeth.
Mae arfau, meistr defnydd barddoniaeth,
yn gadarn yn ei galon.
Ers deng mlynedd i heddiw
28 dywedodd Dafydd, teilwng ei gerdd,
fod ynddo gant, efallai,
o arfau, ergydion dur,
o saethau, rhwystrau llidus y meddwl,
32 ac y cythruddwyd ef drwyddo.
Roedd yn dioddef o lesgedd cryf,
ym marn gwyr, o achos y boen honno.
Celwydd mawr, y bardd bradwriaethus,
36 a draethodd Dafydd y gwenieithydd.
Pe bai Arthur, amddiffynnwr fel piler mawr,
a wnaeth ymosodiad ar fintai rhyfel,
mae'n wir, pe bai'r gwaywffyn i gyd
40 yn bresennol mewn cant o anafiadau,
gwyllt oedd y rhyfeloedd a gynhaliodd ef,
y gwir yw na fyddai ef fyw am fis,
heb sôn am y llanc gwych main ac ifanc,
44 gwasanaethwr serch, un gwan ydy o.
Pe bai Cymro o Fôn yn ei drywanu'n arw
â gwaywffon - onid gwae fo? -
gyda'i law aur ar baladr ei waywffon,
48 dan frig ei fron ddrylliedig,
gwae fi os byddai yn fyw am awr hir o'r bore,
truenus yw ei liw;
heb sôn am grybwyll, nid synnwyr teg,
52 llewyg oherwydd llawer o waywffyn.
Ei lwon yw ei laddedigaeth,
lladdwyd ei liw ag arfau.
Fy nghred, y mab ffraeth a doeth,
56 er ei fod yn ymffrostgar ardderchog a rhagorol,
[yw] y byddai gwr doeth o wlad arall yn gallu
achosi cwyn â saeth o frwynen a brad syth.
Pryder yw iddo, cyn profedigaeth ddwys,
60 farw o achos arfau Morfudd.