| Cywydd Ymryson Cyntaf Gruffudd Gryg | |
| Mae'n drueni mor wael yw Dafydd, | |
| taradr o serch sydd ynddo. | |
| Mae'n beth rhyfedd i Ddafydd, y cnaf, | |
| 4 | fab Gwilym Gam, y dyn difai, |
| y gwas hy iawn, cymar digofaint, | |
| poen ganwaith wnaeth iddo nychu. | |
| Hefyd mae'r mab anwar | |
| 8 | yn anwesu cerdd [mewn] cuddfannau caeth. |
| Gwaith egwan hir yw ei floedd, | |
| myn mam Duw, y mae, medd ef, | |
| artaith druenus ar Gymro, | |
| 12 | rhyfedd yw ei fod yn fyw. |
| Ymhob lle, boch[au] llawn angerdd, | |
| Mair a glyw, un mawr ei glwyf ydyw, | |
| yn difrodi holl gorff Dafydd | |
| 16 | poenau gymaint â nifer y sêr sydd. |
| Och i mi os gwayw o yw miniog | |
| sydd yn y bardd blaenllaw. | |
| Nid gwayw brwydr ymysg mil[oedd], | |
| 20 | nid gwayw tân iddw, ond gwayw gwan. |
| Nid gwayw yng nghefn, cyflwr gwael, | |
| nid clefyd esgyrn, ond eiddilwch. | |
| Nid gwayw ymosodiad, [un] llidiog ydyw, | |
| 24 | nid gwayw grymus, ond poenau rhwystredigaeth. |
| Mae arfau, meistr defnydd barddoniaeth, | |
| yn gadarn yn ei galon. | |
| Ers deng mlynedd i heddiw | |
| 28 | dywedodd Dafydd, teilwng ei gerdd, |
| fod ynddo gant, efallai, | |
| o arfau, ergydion dur, | |
| o saethau, rhwystrau llidus y meddwl, | |
| 32 | ac y cythruddwyd ef drwyddo. |
| Roedd yn dioddef o lesgedd cryf, | |
| ym marn gwŷr, o achos y boen honno. | |
| Celwydd mawr, y bardd bradwriaethus, | |
| 36 | a draethodd Dafydd y gwenieithydd. |
| Pe bai Arthur, amddiffynnwr fel piler mawr, | |
| a wnaeth ymosodiad ar fintai rhyfel, | |
| mae'n wir, pe bai'r gwaywffyn i gyd | |
| 40 | yn bresennol mewn cant o anafiadau, |
| gwyllt oedd y rhyfeloedd a gynhaliodd ef, | |
| y gwir yw na fyddai ef fyw am fis, | |
| heb sôn am y llanc gwych main ac ifanc, | |
| 44 | gwasanaethwr serch, un gwan ydy o. |
| Pe bai Cymro o Fôn yn ei drywanu'n arw | |
| â gwaywffon – onid gwae fo? – | |
| gyda'i law aur ar baladr ei waywffon, | |
| 48 | dan frig ei fron ddrylliedig, |
| gwae fi os byddai yn fyw am awr hir o'r bore, | |
| truenus yw ei liw; | |
| heb sôn am grybwyll, nid synnwyr teg, | |
| 52 | llewyg oherwydd llawer o waywffyn. |
| Ei lwon yw ei laddedigaeth, | |
| lladdwyd ei liw ag arfau. | |
| Fy nghred, y mab ffraeth a doeth, | |
| 56 | er ei fod yn ymffrostgar ardderchog a rhagorol, |
| [yw] y byddai gŵr doeth o wlad arall yn gallu | |
| achosi cwyn â saeth o frwynen a brad syth. | |
| Pryder yw iddo, cyn profedigaeth ddwys, | |
| 60 | farw o achos arfau Morfudd. |