GDG 147, BDG cxx
Ymryson Dafydd ap Gwilym a Gruffudd Gryg yw'r enwocaf o ymrysonau'r beirdd, ac mae'n rhan sylweddol a phwysig iawn o waith y ddau fardd; dyma'r hwyaf o'r holl ymrysonau canoloesol. Ond er gwaethaf hyn, ychydig iawn o waith sydd wedi ei wneud ar yr ymryson. Golygiad Thomas Parry oedd yr unig olygiad ohono (ar wahân i'r testun cynnar yn BDG), ac er bod llawer o gyfeiriadau at yr ymryson mewn gweithiau academaidd, ni fu astudiaeth lawn ohono.
Mae cysylltiad agos rhwng cywyddau'r ymryson a rhif 127, 'Gwayw Serch' — nodir mewn rhai llawysgrifau mai 127 yw cywydd cyntaf yr ymryson, ac fe geir peth cymysgu rhwng cwpled cyntaf yr ymryson, a gyflwynir fel rhan o'r ymryson yma, ond sydd yn ymddangos fel cwpled olaf rhif 127 mewn rhai llawysgrifau. Yn ei gywydd cyntaf, mae Gruffudd Gryg yn cyfeirio yn ôl at 'Gwayw Serch', ac hyd yn oed yn adleisio arddull y cywydd hwnnw, sy'n awgrymu bod Gruffudd Gryg yn gyfarwydd â cherdd Dafydd ap Gwilym.
Ceir y teitl 'ymryson' mewn nifer o lawysgrifau cynnar, gan gynnwys llawysgrifau Llywelyn Siôn, ar ddechrau 'Gwayw Serch' yn llawysgrifau Wmffre Dafis ('cowydde ymrysson rhwng davydd ap glm a gryffydd gryg'), ac mewn llaw ddiweddarach ar ddechrau 'Gwayw Serch' yn C 5. Fodd bynnag, 'dychan' y gelwir y cywyddau hyn yn tua hanner y llawysgrifau, ac mae'r teitl hwnnw yn hollol addas. Er i nifer o bobl bwysleisio pwysigrwydd yr ymryson, a defnyddio rhannau ohono i brofi gwahanol bethau — er enghraifft, nododd Bromwich bod yr ymryson yn cynrychioli'r ymgais gyntaf ar feirniadaeth lenyddol Gymraeg (Bromwich, 1986), ac roedd Bobi Jones yn honni bod yr ymryson yn trafod 'pwnc mawr' barddoniaeth Gymraeg (R. M. Jones, 1967), nid oes llawer o feirniadaeth lenyddol yn y cywyddau hyn mewn gwirionedd. Mae'r drafodaeth yn y cywyddau cyntaf: ergyd Gruffudd yw bod Dafydd yn canu celwydd yn ei gywyddau am wewyr serch, ac nad oedd yn dioddef mewn gwirionedd. Mae ateb Dafydd yn pwysleisio bod yr un faint o urddas i gywydd serch, boed yn wir ai peidio, ac i ganu mawl, ond yn ei gywydd cyntaf mae hefyd yn taflu cyhuddiad newydd at Gruffudd, sef ei fod yn llên-ladrata, a dyma brif bwynt Dafydd yn ôl Johnston, ond nid yw Dafydd yn datblygu'r drafodaeth ar y cywydd gau nag yn ateb beirniadaeth Gruffudd yn llawn (Johnston, 2005, 395–397). Erbyn y pedwar cywydd olaf, cyfnewid sarhadau y mae'r ddau fardd, ac nid oes dadl o sylwedd ynddynt. Er nad ydynt wedi ateb dadleuon ei gilydd, ac er nad oes terfyn pendant, mae cwpled olaf y cywydd olaf yn fath o ddiweddglo, er ei fod yn ddiweddglo tila i wyth cywydd ymryson. Mae'r Ymryson, yn bwysig hefyd ar sail y croesgyfeiriadau, yn y dystiolaeth am agosatrwydd y ddau fardd a'u gwybodaeth o waith ei gilydd, ac yn y modd y maent yn troi cyhuddiadau'r llall yn gelfydd a'u saethu yn ôl.
Ceir yr ymryson mewn hanner cant o lawysgrifau, ond dim ond mewn 31 o'r rheiny y ceir yr wyth cywydd yn gyflawn. Ymysg y copïau cynnar mae pum gwahanol gopi gan Lywelyn Siôn, o bosib o Lyfr William Mathew. Mae testun Llywelyn Siôn yn aml yn wahanol i'r llawysgrifau cynnar eraill, ac mae'n debyg ei fod yn dilyn cynsail wahanol. Mae trefn y llinellau yn wahanol yn ei lawysgrifau hefyd, ac mae ei gopïau yn dystiolaeth bwysig. Roedd copi yn y Vetustus Codex ac fe geir dau dyst, sef M 212 a H 26, ond ni chadwodd John Davies gopi yn Pen 49, fwyaf tebyg am fod John Davies yn cyfyngu ei hun i waith Dafydd ap Gwilym yn unig yn y casgliad hwnnw, ac felly byddai'r Ymryson, gyda chywyddau Gruffudd Gryg, yn difetha'r casgliad. Dim ond y saith cywydd cyntaf a godwyd o'r Vetustus yn M 212, a cheir y cywydd olaf yn nes ymlaen wedi'i godi o Bl e 1. Ceir copi cyflawn o'r Ymryson hefyd yn C 7, llawysgrif gynnar sy'n gysylltiedig â'r Vetustus, a CM 5, sy'n rhoi testun tebyg ond annibynnol. Mae'r testun yn CM 5 hefyd yn cynnwys cwpled ychwanegol (rhif 30, 41–42, a S. E. Roberts, 2005) nad yw'n ymddangos mewn unrhyw ffynhonnell arall. Ceir copïau hefyd mewn tair o lawysgrifau Wmffre Dafis, ond mae ôl addasu ar y testun, ac mae nifer o ddarlleniadau carbwl neu ddibwys ganddo. O ran copïau cynnar anghyflawn, ceir y cywydd cyntaf yn unig yn Ll 10, ac mae'r copi yn agos iawn at yr hyn sydd gan Lywelyn Siôn. Yna ceir copi o gywyddau 25, 26 a 27, a llinellau cyntaf 28 yn C 5, llawysgrif Elis Gruffydd, unwaith eto yn dangos cysylltiad â chylch y Vetustus. Felly, ymysg y llawysgrifau cynnar, dwy brif gynsail sydd, sef cylch y Vetustus, a chynsail Llywelyn Siôn, ac mae'r llawysgrifau diweddarach bron i gyd yn tarddu o'r rheiny. Fodd bynnag, mae dwy lawysgrif arall sydd angen eu nodi. Mae BL 14876 (Richard Morris) a BL 15059 (Lewis Morris) yn tarddu o'r ddeunawfed ganrif, ac mae un yn gopi o'r llall, ond mae'n anodd penderfynu pa un yw'r llawysgrif wreiddiol o'r ddwy. Maent yn wahanol i bob copi arall yn nhrefn y llinellau, ac yn y ffaith eu bod yn cynnwys cwpled ar ddechrau cywydd 24 sydd ddim yn ymddangos yn unrhyw un o'r llawysgrifau eraill. Nid oes unrhyw beth yn y cwpled i awgrymu ei fod yn ychwanegiad diweddarach, felly mae'n bosib iddo ddod o lawysgrif gynnar sydd bellach ar goll. Ceir y cwpled hwn yn BDG, ond ni ddilynwyd y llawysgrifau hyn yn agos ar gyfer y testun a geir yn y golygiad hwnnw. Mae'n debyg mai testun cyfansawdd sydd yn y llawysgrifau hyn, ac mae'r cywydd olaf yn fyrrach nag eiddo'r llawysgrifau eraill. Nid yw'r llawysgrifau yn bwysig ar wahân i dystiolaeth y cwpled ar ddechrau cywydd 24, ac nid ydynt yn gysylltiedig ag unrhyw un o'r llawysgrifau eraill yn achos yr Ymryson, ond mae'n debyg eu bod yn nes at y Vetustus na fersiwn wahanol Llywelyn Siôn.
Cynghanedd: Sain 27 ll. (45%); Traws 13 ll. (22%); Croes 10 ll. (17%); Llusg 8 ll. (13%); un llinell ddigynghanedd ac un llinell gyda chynghanedd bengoll (3%).
1–2. Mae lleoliad y cwpled hwn yn ansicr, gan ei fod yn aml yn ymddangos ar ddiwedd 'Gwayw Serch' (rhif 127), fel rhan o'r cywydd hwnnw yn y rhan fwyaf o'r llawysgrifau cynnar — H 26, Pen 49, C 7, C 5, Llywelyn Siôn, Pen 76. O'r llawysgrifau cynnar, dim ond llawysgrifau Wmffre Dafis sydd yn rhoi'r cwpled fel rhan o'r Ymryson, ond nid yw 'Gwayw Serch' yn ei lawysgrifau ef beth bynnag. Fe'i ceir fel cwpled cyntaf yr Ymryson yn BL 31056 o'r 17g hefyd. Fodd bynnag, yn llawysgrif C 7, mae'r cwpled yn rhan o 'Gwayw Serch', ond tanlinellodd rhywun y cwpled, a marcio 'terfyn' ar ddiwedd y cwpled blaenorol, sy'n awgrymu bod amheuaeth am leoliad y cwpled yn gynnar. Mae hyn hefyd yn fwy o dystiolaeth mai 'Gwayw Serch' oedd man cychwyn yr Ymryson mewn gwirionedd.
Penderfynodd Thomas Parry nad oedd y cwpled yn perthyn yn unman: 'Nid yw'n gweddu yn y naill le na'r llall. Diau mai cwpled ydyw a luniwyd gan ryw ddarllenwr gan gadw'r cymeriad sydd yn llinellau olaf y cywydd hwn, a'i ysgrifennu ar ymyl y ddalen. Yna corfforwyd ef yn y testun, a chan fod y cywydd hwn yn rhagflaenu'r ymryson mewn amryw o lsgrau., cynhwyswyd y cwpled ar ddiwedd hwn mewn rhai llsgrau., ac ar ddechrau cywydd cyntaf yr ymryson yn y lleill.' Os dyna'r achos, cafodd ei ymgorffori yn 'Gwayw Serch' erbyn cyfnod H 26 a M 212, ac yn yr Ymryson erbyn amser WD. Penderfynwyd ei gynnwys yn y golygiad hwn, ac fel rhan o'r Ymryson yn hytrach na 'Gwayw Serch'. Mae'r cwpled yn enwi Dafydd, fel petai'n ei gyfarch, ac nid oes enghraifft arall o hyn yn rhif 127, felly mae hynny yn gweddu yn well yn y cywydd hwn o eiddo Gruffudd Gryg. Hefyd, mae 'Gwayw Serch' yn edrych fel cerdd sydd o ddifrif, yn hytrach nag yn enghraifft o Dafydd yn canu gyda'i dafod yn ei foch, ac felly nid yw'r cwpled hwn yn gweddu yno cystal — mae'n hunan dosturiol mewn modd nas gwelir yng ngweddill rhif 127.
Mae'n bosib ei fod yn fath o ragymadrodd i'r cywydd sy'n dilyn — yn enwedig os oedd y cywyddau i gael eu perfformio, ac felly rhoddwyd y cwpled ar wahân ar ddechrau'r cywydd.
6. gwewyr Gall y gair hwn gyfeirio at waywffyn, fel ffurf luosog gwayw , neu gall olygu 'poenau' — dyna'r ystyr fodern. Gw. rhif 127, lle y defnyddir y gair droeon.
7. hefyd y Dyma'r darlleniad yn C 7, M 212, H 26 a CM 5, ond mae Llywelyn Siôn a Ll 10 yn darllen a hefyd .
8. llechau caeth yn llech caeth sydd yn GDG, ond mae'n ansicr o ble daeth y darlleniad hwn. Mae'r llawysgrifau cynnar yn cynnig rhywbeth tebyg i llechau . Mae'r un llawysgrifau hefyd yn rhoi'r gair 'yn' i ni, sy'n gwneud y llinell sillaf yn rhy hir. Mae M 160 yn rhoi darlleniad hollol wahanol — 'yn llywch kaith yn llechi kaeth', sydd ddim yn gwneud cymaint o synnwyr, ond sy'n amlwg yn deillio o ddarlleniad digon tebyg i'r testun. Mae'n bosibl mai cyfeiriad at lechi ysgrifennu sydd yma.
10. ym mam Dduw Dilynir diwygiad GDG ar sail darlleniad Llywelyn Siôn, myn mam Dduw , (cymh. 78.13) ond mae'r llawysgrifau cynnar eraill yn cynnig mam i Dduw sydd heb fod yn ebychiad cyffredin. Mae blot dros eiriau cyntaf y llinell yn Ll 10 ac felly nid oes modd darllen dechrau'r llinell.
11. Nid oes cynghanedd yn y llinell hon, ond mae'r llawysgrifau cynnar i gyd yn cytuno ar y darlleniad hwn (nid yw 'druan' wedi ei dreiglo gan Lywelyn Siôn).
13–14. Dilynir trefn Llywelyn Siôn yma, ac yn GDG, ar gyfer lleoliad y cwpled hwn. Fe'i ceir yn nes at ddiwedd y gerdd yn y llawysgrifau cynnar eraill.
14. un mawr ei glwyf mai mawr ei glwyf a geir gan Thomas Parry, sydd yr un fath â'r hyn a geir yn fersiwn y Vetustus a CM 5, ond gan fod lleoliad y cwpled yn dilyn Llywelyn Siôn, dilynwyd ei ddarlleniad hefyd, gan gymryd mai y cymal yn y cwpled nesaf yw gwrthrych Mair a glyw .
15—16. Mae trefn y cwpled yn wahanol yn GDG, ond dilynwyd Llywelyn Siôn a Ll 10 yn y golygiad hwn.
17. gwayw yw Nid yw'r cwpled yn fersiwn y Vetustus. Gwewyr sydd yn GDG, sy'n rhoi'r nifer cywir o sillafau. Gwayw awchlif a geir yn Ll 10 a M 160, sydd sillaf yn fyr, ond mae'r rhan fwyaf o lawysgrifau Llywelyn Siôn (ar wahân i Ll 48, sydd yr un fath â Ll 10) yn cynnig gwayw yw awchlif , gyda'r nifer cywir o sillafau. Mae'n debyg mai'r pren yw a olygir yma, sy'n gweithio'n dda gyda llinell 58, isod, lle y dywedir mai saeth wan, o frwyn, yw'r gwayw sydd yn trywanu Dafydd. Pren cryf, trwm yw pren ywen. Cynghanedd draws bengoll sydd yn y llinell.
20. iddw Y clefyd erysipelas neu St. Anthony's Fire yw tân iddw, sef clefyd ar y croen yn bennaf, sy'n achosi poen, chwydd, toriadau yn y croen a chasgliad. Wrth waethygu, gall hefyd achosi poenau a'r teimlad o losgi, sy'n egluro'r enw yn Gymraeg ac yn Saesneg.
21. wiwdrefn Dyma a gair yn y llawysgrifau cynnar i gyd ar wahân i Llywelyn Siôn, sy'n rhoi waeldrefn , darlleniad sy'n edrych yn fwy synhwyrol ar yr olwg gyntaf, ond mae'n bosib mai'r eglurhad dros y darlleniad anarferol wiwdrefn yw mai peth da yw cael gwayw yn ei gefn, gan ei fod yn cael ei ladd mewn brwydr yn hytrach na chael ei ladd gan serch. Dyma enghraifft o ddarlleniad sy'n edrych yn anaddas ar yr olwg gyntaf, ond sy'n rhoi gwell synnwyr o ystyried ergyd y darn cyfan.
22. sylwayw neu selwayw . Ceir y gair gan Siôn Tudur hefyd, GST, 77.9, ac mewn nodyn ar y gair fe ddywed Enid Roberts mai y clefyd ostocopos ydyw, lle y mae'r esgyrn fel pe baent yn ymollwng. Gw. hefyd GPC 3383.
23. digus Dim ond gan Lywelyn Siôn y ceir y cwpled hwn. Digrus sydd yn ei lawysgrifau, ond mae'r synnwyr a'r gynghanedd yn gofyn y diwygiad hwn.
neud nid sydd yn llawysgrifau Llywelyn Siôn, ond diwygiwyd y gair er mwyn yr ystyr, gan mai gwayw llidiog yw gwayw mewn brwydr.
31–34. Dim ond llsgrau Llywelyn Siôn sy'n cynnwys y cwpledi hyn.
35. Ceir nifer o fersiynau o'r llinell hon — yma, dilynir Ll 10. Mawr gelwydd mwyn brydydd brad a geir gan Lywelyn Siôn, a kelwydd y mwyn brydydd brad a geir yn fersiwn y Vetustus. Mae gwall yn M 212 gan mai kelwydd ymwyn brydydd brav a geir.
37. Arthur Y pennaf o arwyr traddodiadol y Cymry, er mwyn gwneud y gwrthgyferbynnu yn gryfach fyth.
39. pe bai'r Mae'r gystrawen braidd yn ddryslyd oherwydd ailadrodd y ferf, ond mae ei hangen yma er mwyn y synnwyr ac felly ni ellir derbyn darlleniad LlS, sef vrathav .
40. cynhyrchol mewn cynhyrchawl boen sydd gan Lywelyn Siôn a Ll 10, ond nid yw'r ystyr cystal, ac mae mewn yn well ar ôl y gair cynhyrchol .
41. gwyllt gwych sydd yn Ll 10, ond mae'r ystyr yn gryfach o ddilyn Llywelyn Siôn. Nid yw'r cwpled yn fersiwn y Vetustus nac yn llawysgrifau WD.
44. gweinidog serch Llywelyn Siôn a Ll 10, H 26, C 7. Ceir gweinidog cerdd yn M 212 a CM 5, ond mae darlleniad Llywelyn Siônyn well o ran ystyr. Cymh. gweinidog nwyf , GLlGMH 12.22.
45. pei brathai Llywelyn Siôn. Pe brathai sydd yn fersiwn y Vetustus, CM 5 a C 7, ac nid yw'n ymddangos bod sail i pes GDG. Cynghanedd lusg wyrdro bengoll a geir yn y llinell hon (ond gallai fod yn ddigynghanedd fel ll. 11 uchod).
46. o Fôn Un o Fôn oedd Gruffudd Gryg, ac mae nifer o gyfeiriadau at yr ynys yn y cywyddau Ymryson.
50. yw ei ne darlleniad fersiwn y Vetustus. Oedd ef sydd yn Ll 10, ac yw tyw ar nef gan WD, sy'n rhoi gormod o sillafau yn y llinell. Mae darlleniad Llywelyn Siôn, i vyw ve yn gwneud mwy o synnwyr, ond anarferol yw'r rhagenw 'fe' yn y cyfnod. Mae'n debyg mai'r gair anghyfarwydd gne a achosodd y dryswch.
53—6. yn eisiau yn y llawysgrifau cynnar ar wahân i rai Llywelyn Siôn a Ll 10.
53. Ei lyain lluosog llw , gw. GPC 2249, a nodyn Thomas Jones yn Y Traethodydd XXI (1953), 96. Ei liain sydd gan Lywelyn Siôn, lye sydd yn Ll 10, ac nid yw'r cwpled yn y llsgrau eraill. Diwygiodd Parry y gair i Eilywiant , gan egluro bod y copïwyr wedi camddeall rhywbeth, ond erbyn yr ail argraffiad, newidiodd y darlleniad i lyain .
56. Mae'r llinell yn ddigynghanedd gan Lywelyn Siôn, cyd boet yn wr campus coeth , ac felly dilynwyd Ll 10 yma, ond gan gadw boed yn lle bych .
59. cyn praw prudd Cymh. yn ôl praw prudd , 100.33.