â â â Englynion yr Anima Christi
â â â Anima Christi, sanctifica me
1â â â Enwog trugarog, rhan wyd Tri-ac Un
2â â â O annog proffwydi,
3â â â Enaid teg, croesteg Cristi,
4â â â Fal glain o fewn glanha fi.
â â â Corpus Christi, salva me
5â â â Corff Crist, rhydrist gwrhydri-camau,
6â â â Cnawd cymin o'i erchi,
7â â â Iechyd, pur ysbryd, peri,
8â â â Iachâ, Lyw, cadw yn fyw fi.
â â â Sanguis Christi, inebria me
9â â â Gwaed Crist rhag yn drist dros deithi-a wna'
10â â â Fy neol a'm colli,
11â â â Cydfod goleuglod Geli,
12â â â Cadw rhag pechod feddwdod fi.
â â â Aqua lateris Christi, lava me
13â â â Dwfr o ystlys dilwfr dolur weli-Crist,
14â â â Croes newydd cynheilri,
15â â â Dwyfawl gyllawl heb golli,
16â â â Diwyd gylch fywyd, golch fi.
â â â Passio Christi, conforta me
17â â â Dioddef Crist o nef, Naf proffwydi-byd,
18â â â Bu ddygn dy bum weli,
19â â â Cadarn iawn wiwddawn weddi,
20â â â Cadarnha, fawr Wrda, fi.
â â â O bone Iesu, exaudi me
21â â â Gwâr Iesu trugar, treigl, dydi,-ataf,
22â â â Ateb y goleuni,
23â â â Gwawr pob allawr fawr foli,
24â â â Gwrando heb feio fyfi.
â â â Et ne permittas me separari a te
25â â â A gosod, fau fod, fyfi,-Gun urdda',
26â â â Gar dy law, Leo mundi,
27â â â (Megis perth, wiwnerth weini,
28â â â Mawl heb dawl, y molaf di)
â â â Ut cum angelis tuis laudem te
29â â â Cyda'th nifer, Nêr, nerth ir-angylion,
30â â â Yng ngolau ni chollir;
31â â â Yn y ne' y cyweddir,
32â â â Nesed bid gwared, boed gwir.
â â â Amen
33â â â Poed gwir, neu'n dygir i deg frenhiniaeth-nef
34â â â Yn ufudd wrogaeth,
35â â â Gwlad uchel, wlad feithrad faeth,
36â â â Gwledd ddiwagedd dduwogaeth.