Edited Text: 2 - Englynion yr Anima Christi

Englynion yr Anima Christi

Anima Christi, sanctifica me

Enwog trugarog, rhan wyd Tri—ac Un
      O annog proffwydi,
   Enaid teg, croesteg Cristi,
4    Fal glain o fewn glanha fi.

Corpus Christi, salva me

Corff Crist, rhydrist gwrhydri—camau,
      Cnawd cymin o'i erchi,
   Iechyd, pur ysbryd, peri,
8    Iachâ, Lyw, cadw yn fyw fi.

Sanguis Christi, inebria me

Gwaed Crist rhag yn drist dros deithi—a wna'
      Fy neol a'm colli,
   Cydfod goleuglod Geli,
12    Cadw rhag pechod feddwdod fi.

Aqua lateris Christi, lava me

Dwfr o ystlys dilwfr dolur weli—Crist,
      Croes newydd cynheilri,
   Dwyfawl gyllawl heb golli,
16    Diwyd gylch fywyd, golch fi.

Passio Christi, conforta me

Dioddef Crist o nef, Naf proffwydi—byd,
      Bu ddygn dy bum weli,
   Cadarn iawn wiwddawn weddi,
20    Cadarnha, fawr Wrda, fi.

O bone Iesu, exaudi me

Gwâr Iesu trugar, treigl, dydi,—ataf,
      Ateb y goleuni,
   Gwawr pob allawr fawr foli,
24    Gwrando heb feio fyfi.

Et ne permittas me separari a te

A gosod, fau fod, fyfi,—Gun urdda',
      Gar dy law, Leo mundi,
    (Megis perth, wiwnerth weini,
28    Mawl heb dawl, y molaf di)

Ut cum angelis tuis laudem te

Cyda'th nifer, Nêr, nerth ir—angylion,
      Yng ngolau ni chollir;
   Yn y ne' y cyweddir,
32    Nesed bid gwared, boed gwir.

Amen

Poed gwir, neu'n dygir i deg frenhiniaeth—nef
      Yn ufudd wrogaeth,
   Gwlad uchel, wlad feithrad faeth,
36    Gwledd ddiwagedd dduwogaeth.