| Englynion yr Anima Christi | |
| Anima Christi, sanctifica me | |
| Enwog trugarog, rhan wyd Tri—ac Un | |
| O annog proffwydi, | |
| Enaid teg, croesteg Cristi, | |
| 4 | Fal glain o fewn glanha fi. |
| Corpus Christi, salva me | |
| Corff Crist, rhydrist gwrhydri—camau, | |
| Cnawd cymin o'i erchi, | |
| Iechyd, pur ysbryd, peri, | |
| 8 | Iachâ, Lyw, cadw yn fyw fi. |
| Sanguis Christi, inebria me | |
| Gwaed Crist rhag yn drist dros deithi—a wna' | |
| Fy neol a'm colli, | |
| Cydfod goleuglod Geli, | |
| 12 | Cadw rhag pechod feddwdod fi. |
| Aqua lateris Christi, lava me | |
| Dwfr o ystlys dilwfr dolur weli—Crist, | |
| Croes newydd cynheilri, | |
| Dwyfawl gyllawl heb golli, | |
| 16 | Diwyd gylch fywyd, golch fi. |
| Passio Christi, conforta me | |
| Dioddef Crist o nef, Naf proffwydi—byd, | |
| Bu ddygn dy bum weli, | |
| Cadarn iawn wiwddawn weddi, | |
| 20 | Cadarnha, fawr Wrda, fi. |
| O bone Iesu, exaudi me | |
| Gwâr Iesu trugar, treigl, dydi,—ataf, | |
| Ateb y goleuni, | |
| Gwawr pob allawr fawr foli, | |
| 24 | Gwrando heb feio fyfi. |
| Et ne permittas me separari a te | |
| A gosod, fau fod, fyfi,—Gun urdda', | |
| Gar dy law, Leo mundi, | |
| (Megis perth, wiwnerth weini, | |
| 28 | Mawl heb dawl, y molaf di) |
| Ut cum angelis tuis laudem te | |
| Cyda'th nifer, Nêr, nerth ir—angylion, | |
| Yng ngolau ni chollir; | |
| Yn y ne' y cyweddir, | |
| 32 | Nesed bid gwared, boed gwir. |
| Amen | |
| Poed gwir, neu'n dygir i deg frenhiniaeth—nef | |
| Yn ufudd wrogaeth, | |
| Gwlad uchel, wlad feithrad faeth, | |
| 36 | Gwledd ddiwagedd dduwogaeth. |