ar kywydd hynn a wnaeth ymryson gyntaf
ymryson rwng davydd ao gwilim a gryffydd gryg
3 Eres i ddavydd ouryn
4 ap Gwilym gam ddinam ddyn
5 [73] gwas tra hy kywelv kawdd
6 gwaewyr gannwaith am gwywawdd
7 a hevyd mab anhyvaeth
8 yn llochi kerdd llechav kaeth
9 maeth eiddylaeth y ddolef
10 mynn mam dduw i mae medd ef
11 artaith tryan ar Gymro
12 eres yw i vyw e vo
13 ymhob ryw rann gran grynwyf
14 Mair a glyw vn mawr i glwyf
15 yn diva holl gorff davydd
16 gwaewyr Rif y syr a sydd
19 nid gwaew terfysg ymysg mil
20 nid gwaew iddwf ond gwaew eiddil
17 och ym os gwaew awchlif
18 a fydd yny prydydd prif
21 nid gwae ynghefn wael drefn wedd
22 nid sel wayw onyd salwedd
23 nid dygyrch waew nyd digrys
24 nid gwaewyr rym ond gwaew rys
25 mae arfav y meistr gwaeav gwawd
26 yn gadarn yny gaudawd
27 es deng mlynedd i heddiw
28 davydd a ddywawd wawd wiw
29 bod yndaw gant o antur
30 o arfav dyrnaidav dur
31 o saethav kof leiddiav kawdd
32 a thrwyddaw i kythryddiawdd
33 [74] merfder kadarn oedd arnaw
34 y marn gwyr drwy waewyr draw
35 mawr gelwydd mwyn brydydd brad
36 a draethawdd davydd drithiad
37 pe bai n arthur mvr mawrgorf
38 a wnaeth ffysg ar derfysg dorf
39 gwir yw vrathau r gwaewyr oll
40 kyn hyrchawn boen kan harcholl
41 gwyllt Ryvel a gynhelis
42 gwir yw na byddai vyw vis
43 chwaeth mainlas yw r gwas gwiw
44 gwenidawg serch gwann ydiw
45 och ym pai brathai Gymro
46 a gwaew o von ond gwae vo
47 au aurllaw am i arllost
48 dan benn i vronn donn yn dost
49 or byddai awr vawr vore
50 yn vyw tryan yw vyw ve
51 chwaethach kurbwyll nid pwyll per
52 llewyg am waewyr llawer
53 i liain yw i leas
54 i liw ag arfav a las
55 ynghred y mab arbddoeth
56 Kyd boet yn wr kampys koeth
57 i gwnai wr kall or allwlad
58 kwyn a saeth vrwyn i syth vrad
59 ofn yw yddaw kyn praw prudd
60 angav am arfav morfvdd
Gryffïdd grïg ai kant