Y kywydd hyn iwr rae ymryson rwng Davydd ap Gwilim a Gryffydd Gryg
3 Eres i ddavydd ouryn
4 ap Gwilym gam ddinam ddyn
5 gwas tra ky kywely kawdd
6 gwaewyn gancwaith aï gwywawdd
7 a hevyd mab anhyvaeth
8 yn llochi kerdd llechav kaeth
9 maeth eiddilaeth i ddolef
10 myn mam dduw i mae medd ef
11 artaith tryan ar Gymro
12 eres yw i vyw e vo
13 ymhob ryw vann grann grynwyf
14 Mair a glyw vn mawr i glwyf
15 yn diva holl gorff Davydd
16 gwaewyr Rif a syrdd a sydd
19 nid gwaew terfysg y mysg mil
20 nid gwaew iddwf ond gwaew eiddil
17 och ym os gwaew yw awchlif
18 a fydd yny prydydd prif
21 nid gwaew ynghefn wael drefn wedd
22 nid sel wayw onid salwedd
23 nid digyrch waew nid digrys
24 nid gwaewyr rym ond gwaewyr rys
25 mae arfav y meistr gwaeav gariawd
26 yn gadarn yny gau dawd
27 os dengmlynedd i heddiw
28 Davydd a ddywawd wawd wiw
29 fod yndaw gant o antur
30 o arfav dyrnodav dur
31 o saethav kof luddiav kawdd
32 a thrwyddaw i kythryddawdd
33 merfer kadarn yw arnaw
34 y marn gwyr drwy waewyr draw
35 mawr brydydd gelwydd mwyn
brydydd brad
36 a draethawdd Davydd drythiad
37 pe bai arthur mvr mawrgorf
38 a wnaeth ffysg ar derfysg dorf
39 gwir yw vrathav gwaewyr oll
40 kyn hyrchawn boen kann harcholl
41 gwyllt Ryvel a gynhelis
42 gwir yw na byddai vyw vis
43 chwaethach mainlas yw r gwas gwiw
44 gwenidawg serch gwann ydiw
45 och ym pai brathai Gymro
46 a gwaew o von ond gwae vo
47 au aurllaw am i arllost
48 dan benn i vronn donn yn dost
49 or byddai awr vawr vore
50 yn vyw tryan i vyw ve
51 chwaethach kurbwyll nid pwyll per
52 llewych am waewyr llawer
53 i liain yw i leas
54 i liw ag arfav a las
55 yngred y mab arabddoeth
56 Kyd boet yn wr kampvs koeth
57 i gwnai wr kall or allwlad
58 kwyn a saeth vrwyn a syth vrad
59 [151r] ofn yw yddaw kyn praw prudd
60 angav am arfav Morfydd
Gryffydd gryg ai kant