Gruffydd gryg i Ddafydd ab Gwilim
1 Eres i ddafydd oeryn
2 fâb gwilim gam ddinam ddyn
3 wâs trâ hy Cywely cawdd
4 gwewyr ganwaith ai gwywawdd
5 hefyd y mâb anhyfaeth
6 yn llochi cerdd llechau caeth
7 maith eiddilwaith i ddolef
8 mam i dduw y mae medd ef
9 artaith druan ar Gymro
10 eres yw ei fyw y fo
11 gwewyr rif y syr y sydd
12 yn difa holl gorph Dafydd
13 nid gwayw terfysg ymysg medd
14 nid sylwayw onid salwedd
15 ers deng mlynedd i heddyw
16 Dafydd a ddywawd wawd wyw
17 fod ynddo gant ond antur
18 o arfau dyrnodiau dur
19 celwydd y mwyn brydydd brâd
20 a draethodd Dafydd drythiad
21 merfer cadarn oedd arnaw
22 y marn gwyr drwy wewyr draw
23 pei bae Arthur mur mowrgorff
24 a wnae ffysg derfysg ar dorff
25 gwir yw pe bae'r gwewyr oll
26 cynhyrchawl mewn can harcholl
27 gwyllt ryfel a gynhelis
28 gwir yw na bydda fyw fis
29 [5rb] ymhob rhyw fan grann grynnwyf
30 mair a glyw mae mawr ei glywf
31 chwaethach meinwas yw'r gwas gwyw
32 gweinidog serch gwyn ydyw
33 och ym pei brathai Gymro
34 a gwayw o fon ond gwae fo
35 ai arllaw ar ei arllost
36 dan ben i fron don yn dost
37 o byddai awr fawr foref
38 yn fyw truan yw fef
39 chwaethach crybwyll nid pwyll per
40 llewyg am wewyr llawer
41 Ei luein yw ei lias
42 Ei liw ag arfau a lâs
43 ynghred y mâb arabddoeth
44 cyd boed yn wr campus coeth
45 y gwnai wr call arallwlad
46 cwyn a saeth urwyn a sad
47 enbyd iddaw rhag praw prudd
48 Angau am arfau morfudd
Gruffydd Gryg ai Cant