â â â Cywydd Ymryson Cyntaf Dafydd ap Gwilym
1â â â Gruffudd Gryg, wyg wag awen,
2â â â Grynedig, boenedig ben,
3â â â Cynnydd cerdd bun o unflwydd,
4â â â Coeg yw, un dyfiad cyw gwydd.
5â â â Nid mwy urddas, heb ras rydd,
6â â â Gwawd no geuwawd o gywydd,
7â â â Cywair ddelw, cywir ddolef,
8â â â Cywydd gwiw Ofydd, gwae ef!
9â â â Un a'i cas, arall a'i cân,
10â â â Enw gwrthgas, un a'i gwrthgan.
11â â â Telyn ni roddid dwylaw
12â â â Ar ei llorf, glaeargorf glaw,
13â â â Ni warafun bun o bydd
14â â â Ei cheuedd gyda chywydd.
15â â â Traethawl yw, o cheir trithant,
16â â â Traethawr cerdd, truthiwr a'i cant
17â â â Yn nhafarn cwrw anhyful,
18â â â Tincr a'i cân wrth foly tancr cul.
19â â â Hwn a'i teifl, hyn neud diflas,
20â â â Hen faw ci, yny fo cas.
21â â â Cwrrach memrwn, wefldwn waith,
22â â â I'r dom a fwrid ymaith,
23â â â A geisir, â'i ddyir ddail,
24â â â A'i bensiwn serch, heb unsail;
25â â â Diddestl fydd o'i fedyddiaw
26â â â Ei bennill ef, bin a llaw.
27â â â Bustl a chas y barnasam
28â â â Beio cerdd lle ni bo cam.
29â â â Pam y'm cên yr awenydd
30â â â Draw i'm diswyddaw y sydd?
31â â â Gruffudd, ddigudd ymddygiad,
32â â â Ap Cynwrig, Wyndodig dad,
33â â â Gwr heb hygarwch Gwyndyd,
34â â â Gwyrodd â'i ben gerdd y byd.
35â â â Nid oes gwaith, lle mae maith medd,
36â â â I geiniad cerddau Gwynedd,
37â â â Eithr torri, ethrod diraen,
38â â â Braisg gofl yw, y brisg o'i flaen.
39â â â Ni chân bardd i ail hardd hin
40â â â Gywydd gyda'i ddeg ewin,
41â â â Ni chano Gruffudd, brudd braw,
42â â â Gwedd erthwch, gywydd wrthaw.
43â â â Pawb a wnâi adail pybyr
44â â â O chaid gwydd, a iechyd gwyr.
45â â â Haws yw cael, lle bo gwael gwydd,
46â â â Siwrnai dwfn, saer no defnydd.
47â â â O myn gwawd, orddawd eurddof,
48â â â Aed i'r coed i dorri cof.
49â â â Nid tra chyfrwys, lwys lysenw
50â â â Awenydd clod, hynod henw,
51â â â A fai raid ofer edau
52â â â I ddefnydd ei gywydd gau.
53â â â A'i law ar ganllaw geinllwyr,
54â â â Rydain hen, y rhed yn hwyr.
55â â â Caned bardd i ail harddlun,
56â â â Gywydd o'i henwydd ei hun.
57â â â Rhoddaf, anelaf yn ôl,
58â â â Rhybudd i Ruffudd ryffol,
59â â â Crair pob ffair, ffyrf a'i gweheirdd,
60â â â Cryglyfr bost, craig lefair beirdd:
61â â â Taled y mab ataliaith
62â â â Tâl am wawd, talm ym o'i waith.