Error processing Anastasia style in file "viewImage.anv" for element "begin": can't read "httppost(tud)": no such element in array in line 1

Testun GolygedigCywydd Ymryson Cyntaf Dafydd ap Gwilym Gruffudd Gryg, wyg wag awen, Grynedig, boenedig ben, Cynnydd cerdd bun o unflwydd, Coeg yw, un dyfiad cyw gwydd. Nid mwy urddas, heb ras rydd, Gwawd no geuwawd o gywydd, Cywair ddelw, cywir ddolef, Cywydd gwiw Ofydd, gwae ef! Un a'i cas, arall a'i cân, Enw gwrthgas, un a'i gwrthgan. Telyn ni roddid dwylaw Ar ei llorf, glaeargorf glaw, Ni warafun bun o bydd Ei cheuedd gyda chywydd. Traethawl yw, o cheir trithant, Traethawr cerdd, truthiwr a'i cant Yn nhafarn cwrw anhyful, Tincr a'i cân wrth foly tancr cul. Hwn a'i teifl, hyn neud diflas, Hen faw ci, yny fo cas. Cwrrach memrwn, wefldwn waith, I'r dom a fwrid ymaith, A geisir, â'i ddyir ddail, A'i bensiwn serch, heb unsail; Diddestl fydd o'i fedyddiaw Ei bennill ef, bin a llaw. Bustl a chas y barnasam Beio cerdd lle ni bo cam. Pam y'm cên yr awenydd Draw i'm diswyddaw y sydd? Gruffudd, ddigudd ymddygiad, Ap Cynwrig, Wyndodig dad, Gwr heb hygarwch Gwyndyd, Gwyrodd â'i ben gerdd y byd. Nid oes gwaith, lle mae maith medd, I geiniad cerddau Gwynedd, Eithr torri, ethrod diraen, Braisg gofl yw, y brisg o'i flaen. Ni chân bardd i ail hardd hin Gywydd gyda'i ddeg ewin, Ni chano Gruffudd, brudd braw, Gwedd erthwch, gywydd wrthaw. Pawb a wnâi adail pybyr O chaid gwydd, a iechyd gwyr. Haws yw cael, lle bo gwael gwydd, Siwrnai dwfn, saer no defnydd. O myn gwawd, orddawd eurddof, Aed i'r coed i dorri cof. Nid tra chyfrwys, lwys lysenw Awenydd clod, hynod henw, A fai raid ofer edau I ddefnydd ei gywydd gau. A'i law ar ganllaw geinllwyr, Rydain hen, y rhed yn hwyr. Caned bardd i ail harddlun, Gywydd o'i henwydd ei hun. Rhoddaf, anelaf yn ôl, Rhybudd i Ruffudd ryffol, Crair pob ffair, ffyrf a'i gweheirdd, Cryglyfr bost, craig lefair beirdd: Taled y mab ataliaith Tâl am wawd, talm ym o'i waith.