3 Cynne fydd cerdd bvn o unvlwydd
4 coeg yw vn dyfiad cyw gwydd
5 nid llai vrddas eb ras rydd
6 no gwawd geuwawd o gywydd
7 cywair ddelw cywir ddolef
8 cywydd gwiw [?o]vydd gwae ef
9 vn ai cas arall ai cant
10 enw gwrthgas vn ai gwrthgant
19 hon ai teifl hynn oed diflas
20 hen vaw ci honi vo cas
11 telyn ni roddid dwylaw
12 ar i llorf glaeargorf glaw
13 ni waravvn bun o bydd
14 i chyvedd gyd a chywydd
17 yn havarn cwrw anhyvvl
18 tinkr ai can wrth vol tancr cul
21 cwrrach meinrwn wefldwn waith
22 ir dom a vwrid ymaith
25 diddesl wrth i vedyddiaw
26 i bennill ef binn a llaw
27 byrr a chas i barnasam
28 beio cerdd lleni bo cam
29 pam amcen yr awenydd
30 draw im diswyddaw ysydd
31 Gruffudd ddigudd ymddygiad
32 vap Cynwrig wendodig dad
33 gwr heb hygarwch gwyndyd
34 gwyrodd ai benn gerdd y byd
59 crair pob phair phyryf gweheirdd
60 cryglyvr bost craig levair beirdd
39 ni chan bardd yma i hardd hin
40 gywydd gyd ai ddeg ewin
41 na chano Gruffudd brudd braw
42 gwedd erthwch gywydd wrthaw
43 pawb a wnai adail pybyr
44 o chaid gwydd ag iechid gwyr
45 [354] haws yw cael lle bo gwael gwydd
46 siwrnai dwfn saer no defnydd
47 o myn wawd orddwawd eurddof
48 aed ir coed i dorri cof
49 nid trachyfrwys lwys lyshenw
50 i wenydd clod hynod henw
51 a vai raid over edau
52 i ddefnydd i gywydd gau
53 ai law ar ganllaw geinllwyr
54 rhydain hen y rhed yn hwyr
55 caned vardd iail harddlvn
56 gywydd oi henwydd i hvn
57 rhoddaf anwylaf ynol
58 rhybudd i Rufudd ryfol
61 taled y mab attaliaith
62 tal am wawd talym oi waith
Dauid ap Gwilim