Englynion yr Anima Christi
   Enaid Crist, sancteiddia fi  
   [Y Gwr] enwog a thrugarog, rhan o Dri ac o Un wyt 
   a ragfynegwyd gan broffwydi, 
   enaid prydferth, Crist ar groes hardd, 
4    glanha fi oddi mewn [nes fy mod] fel tlws.
   Corff Crist, amddiffyn fi  
   Corff Crist, gresynus yw rhyfyg pechodau, 
   cnawd [y mae] cynifer i'w erchi, 
   peri di iechyd, yr ysbryd perffaith, 
8   iachâ a chadw fi yn fyw, Arglwydd. 
   Gwaed Crist, meddwa fi  
   Gwaed Crist, rhag fy alltudio a'm colli yn drist 
   oherwydd y pechodau a wnaf, 
   cyfamod Arglwydd disglair ei anrhydedd, 
12   cadw fi rhag pechod meddwdod. 
   Dwr o ystlys Crist, golch fi  
   Y dwr o ystlys Crist gwrol a'i glwyf dolurus, 
   croes newydd y brenin sy'n cynnal [pob meidrol], 
   y Gwr sanctaidd a pherffaith a chanddo hawl ar galon [pob
		  meidrol], 
16   yr un pur sydd uwchlaw popeth, golch fi. 
   Dioddefaint Crist, cryfha fi  
   Dioddefaint Crist o nef, Arglwydd proffwydi byd, 
   bu dy bum clwyf yn flinderus, 
    [dyma fy] ngweddi daer iawn am rodd fawr, 
20   atgyfnertha fi, Arglwydd nerthol. 
   O Iesu da, gwrando fi  
   Tydi, Iesu trugarog a thirion, llwybreiddia ataf, 
   gair y goleuni, 
   Arglwydd a folir yn helaeth [gerbron] pob allor, 
24   gwrando arnaf heb edliw. 
   Ac na ad i mi ymwahanu oddi wrthyt  
   A rho fi ger dy law, ardderchocaf Frenin, 
   fy nhrigfan, Llew y byd, 
    (molaf di â [chân] o fawl ddiddiwedd, 
28   un megis perth, dyletswydd [a gyflawnir] yn egniol a brwd) 
   I'th foli di gyda'th angylion  
   Gyda'th lu, Arglwydd, cynheiliad grymus yr angylion, 
   yn y goleuni na fydd yn peidio, 
   yn y nefoedd y dygir [ni] oll ynghyd, 
32   bydded gwaredigaeth yn fuan, dyna fy ngwir ddeisyfiad. 
   Amen  
   Gwir yw hyn, dygir ni oll i deyrnas hardd y nefoedd 
   mewn ymostyngiad ufudd, 
   gwlad fry, gwlad bendithion helaeth yn gynhaliaeth, 
36   gwledd ddiderfyn y Duwdod.