| Englynion yr Anima Christi | |
| Enaid Crist, sancteiddia fi | |
| [Y Gŵr] enwog a thrugarog, rhan o Dri ac o Un wyt | |
| a ragfynegwyd gan broffwydi, | |
| enaid prydferth, Crist ar groes hardd, | |
| 4 | glanha fi oddi mewn [nes fy mod] fel tlws. |
| Corff Crist, amddiffyn fi | |
| Corff Crist, gresynus yw rhyfyg pechodau, | |
| cnawd [y mae] cynifer i'w erchi, | |
| peri di iechyd, yr ysbryd perffaith, | |
| 8 | iachâ a chadw fi yn fyw, Arglwydd. |
| Gwaed Crist, meddwa fi | |
| Gwaed Crist, rhag fy alltudio a'm colli yn drist | |
| oherwydd y pechodau a wnaf, | |
| cyfamod Arglwydd disglair ei anrhydedd, | |
| 12 | cadw fi rhag pechod meddwdod. |
| Dŵr o ystlys Crist, golch fi | |
| Y dŵr o ystlys Crist gwrol a'i glwyf dolurus, | |
| croes newydd y brenin sy'n cynnal [pob meidrol], | |
| y Gŵr sanctaidd a pherffaith a chanddo hawl ar galon [pob meidrol], | |
| 16 | yr un pur sydd uwchlaw popeth, golch fi. |
| Dioddefaint Crist, cryfha fi | |
| Dioddefaint Crist o nef, Arglwydd proffwydi byd, | |
| bu dy bum clwyf yn flinderus, | |
| [dyma fy] ngweddi daer iawn am rodd fawr, | |
| 20 | atgyfnertha fi, Arglwydd nerthol. |
| O Iesu da, gwrando fi | |
| Tydi, Iesu trugarog a thirion, llwybreiddia ataf, | |
| gair y goleuni, | |
| Arglwydd a folir yn helaeth [gerbron] pob allor, | |
| 24 | gwrando arnaf heb edliw. |
| Ac na ad i mi ymwahanu oddi wrthyt | |
| A rho fi ger dy law, ardderchocaf Frenin, | |
| fy nhrigfan, Llew y byd, | |
| (molaf di â [chân] o fawl ddiddiwedd, | |
| 28 | un megis perth, dyletswydd [a gyflawnir] yn egniol a brwd) |
| I'th foli di gyda'th angylion | |
| Gyda'th lu, Arglwydd, cynheiliad grymus yr angylion, | |
| yn y goleuni na fydd yn peidio, | |
| yn y nefoedd y dygir [ni] oll ynghyd, | |
| 32 | bydded gwaredigaeth yn fuan, dyna fy ngwir ddeisyfiad. |
| Amen | |
| Gwir yw hyn, dygir ni oll i deyrnas hardd y nefoedd | |
| mewn ymostyngiad ufudd, | |
| gwlad fry, gwlad bendithion helaeth yn gynhaliaeth, | |
| 36 | gwledd ddiderfyn y Duwdod. |