Paraphrase: 2 - Englynion yr Anima Christi

Englynion yr Anima Christi

Enaid Crist, sancteiddia fi

[Y Gŵr] enwog a thrugarog, rhan o Dri ac o Un wyt
a ragfynegwyd gan broffwydi,
enaid prydferth, Crist ar groes hardd,
4 glanha fi oddi mewn [nes fy mod] fel tlws.

Corff Crist, amddiffyn fi

Corff Crist, gresynus yw rhyfyg pechodau,
cnawd [y mae] cynifer i'w erchi,
peri di iechyd, yr ysbryd perffaith,
8iachâ a chadw fi yn fyw, Arglwydd.

Gwaed Crist, meddwa fi

Gwaed Crist, rhag fy alltudio a'm colli yn drist
oherwydd y pechodau a wnaf,
cyfamod Arglwydd disglair ei anrhydedd,
12cadw fi rhag pechod meddwdod.

Dŵr o ystlys Crist, golch fi

Y dŵr o ystlys Crist gwrol a'i glwyf dolurus,
croes newydd y brenin sy'n cynnal [pob meidrol],
y Gŵr sanctaidd a pherffaith a chanddo hawl ar galon [pob meidrol],
16yr un pur sydd uwchlaw popeth, golch fi.

Dioddefaint Crist, cryfha fi

Dioddefaint Crist o nef, Arglwydd proffwydi byd,
bu dy bum clwyf yn flinderus,
[dyma fy] ngweddi daer iawn am rodd fawr,
20atgyfnertha fi, Arglwydd nerthol.

O Iesu da, gwrando fi

Tydi, Iesu trugarog a thirion, llwybreiddia ataf,
gair y goleuni,
Arglwydd a folir yn helaeth [gerbron] pob allor,
24gwrando arnaf heb edliw.

Ac na ad i mi ymwahanu oddi wrthyt

A rho fi ger dy law, ardderchocaf Frenin,
fy nhrigfan, Llew y byd,
(molaf di â [chân] o fawl ddiddiwedd,
28un megis perth, dyletswydd [a gyflawnir] yn egniol a brwd)

I'th foli di gyda'th angylion

Gyda'th lu, Arglwydd, cynheiliad grymus yr angylion,
yn y goleuni na fydd yn peidio,
yn y nefoedd y dygir [ni] oll ynghyd,
32bydded gwaredigaeth yn fuan, dyna fy ngwir ddeisyfiad.

Amen

Gwir yw hyn, dygir ni oll i deyrnas hardd y nefoedd
mewn ymostyngiad ufudd,
gwlad fry, gwlad bendithion helaeth yn gynhaliaeth,
36gwledd ddiderfyn y Duwdod.