3 Kynnofydd kerdd bvn o vnvlwydd
4 koyg yw vn dyfiad kyw gwydd
5 Nid llai vrddas heb ras rydd
6 No gwaw geuwawd o gowydd
7 kywair ddelw kywair ddolef
8 kywydd gwiw ovydd gwae ef
9 vn ai kas alall ai kant
10 enw gwrthgas vn ai gwrthgant
19 honn ai teifl hynn oyd tiflas
20 hen vaw ki honi vo kas
11 Telyn ni roddit twylaw
12 Ar i llorf glayargorf glaw
13 Ni orafvn bvn ovydd
14 I chyvedd gida chywydd
17 yn havarn twrw anhyvvl
18 tinker ai kan wrth vol tankr kvl
21 kwrrach memrwn wefldwn waith
22 ir dom a fwrid ymaith
25 diddestyl wrth i fedyddiaw
26 i bennill ef binn a llaw
27 Byrr a chas i barnassam
28 beio kerdd lle ni bo kamm
29 pam am ken yr ywenydd
30 draw im diswyddaw sydd
31 Gruffyth ddigvdd ymddygiad
32 vab kynnwrig wendodig dad
33 gwr heb hygarwch gwyndyd
34 gwyrodd ai benn gerdd y byd
59 krair pob ffair ffyryf gweheirdd
60 kryg lyfr bost kraig lefair beirdd
39 Ni chan bardd ymae hardd hin
40 gywydd gidai ddeg ewin
41 Na chano grvffydd brvdd braw
42 gwedd erthwch gywydd wrthaw
43 pawb a wnai adail pybyr
44 ochaid gwydd ag iechyd gwyr
45 haws yw kael lle bo gwael gwydd
46 siwrnai dwfn saer no defnydd
47 o myn wawd orddwawd evrddof
48 aed ir koyd i dorri kof
49 Nid trachyfrwys lwys lysenw
50 I ewenyd klod hynod henw
51 a vai raid over edav
52 i ddefnydd i gywydd gav
53 ai law ar ganllaw geinllwyr
54 Rydani hen yrred yn hwyr
55 kaned vardd i ail harddlvn
56 gywydd oi henwydd i hvn
57 roddaf anwylaf yn ol
58 rybydd i Ruffydd ryffol
61 Taled y mab ataliaith
62 Tal am wawd talym oi waith
Davydd ap gwilim ai kant