Dafydd ab Gwilim i Ruffydd Gryg
1 Gruffydd gryg wyg wâg awen
2 grynedig boenedig ben
3 cynnydd cerdd bun o un flwydd
4 coeg yw un dyfiad cyw gwydd
5 nid llai urddas heb ras rydd
6 na gwawd geudawd i gywydd
7 cywair ddelw cowir ddolef
8 cowydd gwiw ofydd gwae ef
9 [5va] un ai cais arall ai cant
10 enw gwrthgas un ai gwrthgant
11 hwn ai teifl hyn oedd tiflas
12 hen faw ci am fo cas
13 telyn ni roddid dwylaw
14 ar ei llorf glaeargorf glaw
15 ni warafun bun o bydd
16 Ei chywedd gida'i chywydd
17 yn hafarn gwrw anhyful
18 tinker ai can wrth fol tanker cul
19 cwrrach memrwn wefldwn waith
20 ir dom a fwrid ymaith
21 Diddestl wrth'i fedyddiaw
22 Ei benill ef bin a llâw
23 byr achas i barnasam
24 beio cerdd lle ni bo cam
25 pam amgen yr awenydd
26 draw im diswyddaw y sydd
27 Gruffydd ddigudd ymddygiad
28 fab Cynfrig windedig dad
29 gwr heb hygarwch gwndyd
30 gwyrodd oi ben gerdd y byd
31 crair pob ffair ffurf gweheirdd
32 cryg lyfr bost caffeg lefair beirdd
33 nid oes lle mae maith mêdd
34 i geiniad cerddau gwynedd
35 eithr torri athrod hiriaen
36 braisg gofl iw y brisc oi flaen
37 ni chân bardd y mai hardd hin
38 gowydd gidai ddeg ewin
39 nas gwna gruffydd brydydd braw
40 gwedd arthwg gowydd wrthaw
41 pawb a wnai adail pybyr
42 o chaid gwydd ag iechid gwyr
43 haws iw cael lle bo gwael gwydd
44 siwrnai dwfn saer no defnudd
45 [5vb] Amyn wawd or ddwawd eurddof
46 aed ir coed i dori cof
47 nid tra chyfrwys lwys lasenw
48 I ywenydd clod hynod henw
49 a fau rhaid ofer edau
50 gael deunydd iw gowydd gau
51 ai law ar ganllaw geinllwyr
52 rhydain hen ai rhed yn hwyr
53 caned bardd i ail hardd lun
54 gowydd oi hen wydd i hun
55 rhoddaf anwylaf yn ôl
56 rybudd i Ruffudd ryffol
57 taled y mâb ataliaeth
58 tâl am wawd talm oi waith
Dafydd ab Gwilim ai C[ ]