Edited Text: 25 - Ail Gywydd Ymryson Gruffudd Gryg

Print friendly version

Ail Gywydd Ymryson Gruffudd Gryg

Gwyll yw, ni wn ai gwell ym
Gweled Dafydd ap Gwilym,
Elw dullfraw, aelaw dwyllfreg,
4 Ail Gwenwlydd yw Dafydd deg.
Da i'm gŵydd, ysgwydd esgud,
A drwg i'm absen a drud.
Dywawd i wŷr y Deau,
8 Dafydd, ar ei gywydd gau,
Nad oedd ym ddim o'm gwawdlef
Eithr ei ddysg: athro oedd ef.
Dywawd gelwydd, myn Dewi,
12 A phrofer pan fynner fi.
Tyngodd na wnaf o'm tafawd,
Gorau gŵr, ond gwyro gwawd.
Arwydd na mynnwn, eiriawl,
16 Gwyro ermoed gair o'r mawl.
Syml ei hwyl, ys aml holion,
Ys hoff gan Ddafydd ei sôn.
Hoff gan bob edn aflednais,
20 Ym medw gled, lwysed ei lais.

    Dryglam oer, drwy gwlm eiriau,
I'r dyn ohonom ein dau,
A difa ar ei dafawd
24 Lle bai, a newidiai wawd.
Cyd boed cryg, ennyg ynni,
Yn nhwf dig, fy nhafod i,
Nid ungamp, onid angerdd,
28 Nid cryg, myn Mair, gair o'r gerdd.

    Hobi hors ymhob gorsedd
A fu hoff, ni feia'i wedd;
Degle'n nes, dwy glun esyth,
32 Diflas yw, dan daflu'n syth.
Dilys, na bu hudoliaeth
O brenial wan, weithian waeth.

    Ail yw'r organ ym Mangor,
36 Rhai a'i cân er rhuo côr.
Y flwyddyn, erlyn oerlef,
Daith oer drud, y doeth i'r dref,
Pawb o'i goffr a rôi offrwm
40 O'r plwyf, er a ganai'r plwm.

    Trydar ei daerfar ar darf,
Trydydd yw Dafydd dewfarf;
Hoff fu yng Ngwynedd, meddynt,
44 Yn newydd ei gywydd gynt.
Bellach, gwywach ei gywydd,
Aeth yng ngwyll ei waith yng ngwŷdd.

    Paham, ar gam Gymräeg,
48 Na wŷl mab Ardudful deg
Pwy yw ef, ddiglef ddeuglwyf,
A phwy wyf innau, hoff wyf.
Or bai decaf gan Ddafydd,
52 Heb gêl, gaffel rhyfel rhydd,
Bwgwl gwlad fydd rhuad rhai,
Bawddyn, pam na'm rhybuddiai?
Rhag fy nghael yng nghwlm coddiant,
56 Yn lledrad fal y cad cant.
Ceisiodd fi, casaodd fudd,
Bribiwr y gerdd, heb rybudd.
Ni rôi neb, oni rown i,
60 Seren bren er ei sorri.