1 gwylld yw ni wn ai gwell dim
2 gweled dafydd ab gwilim
3 ai law dwyllfraw elw dvllfreg
4 ail wenwlydd yw dafydd deg
5 da im gwydd ysgwydd esgvd
6 a drwg im absen a drvd
11 dywod gelwydd myn dewi
12 a ffrouer pan fyner fi
13 tyngodd na wna am tafawd
14 gore gwr ond gwyro gwawd
15 arwydd na mynnwn eiriawl
16 wyro er moed air or mawl
17 symyl hwyl os amyl holion
18 os hoff gan ddafydd i son
19 hoff gan bob edyn aflednais
20 [818] y medw gled lwyssed i lais
21 dryglam oer drwy gwlwm eiriav
22 ir dyn o honom nin dav
23 a difa ar i dafawd
24 lle bai a newidie wawd
25 kyd boed kryg enyg ynni
26 yn hwf dig ynhafod i
27 nid vngamp onid angerdd
28 nid kryg myn mair gair or gerdd
29 hobi hors ymhob gorssedd
30 a fv wych ni feie i wedd
31 degle yn nes dwyglvn essydd
32 diflas yw dan daflv sydd
33 dilis ni bv hvdoliaeth
34 o frenial wan weithian waeth
35 ail ywr organ y mangor
36 rrai ai kan er rrvo kor
37 y flwyddyn erlyn oerlef
38 daith oer drvd i doeth ir dref
39 pawb oi goffyr a roe offr wm
40 or plwy er y gair plwm
41 trydar i daerfardd ar darf
42 trydydd yw dafydd dewfarf
43 hoff oedd yngwynedd meddynt
44 yn newydd i gowydd gynt
45 bellach gwywach i gowydd
46 aeth yngwylld i waith yngwydd
47 pa ham ar gam gyraeg
48 [819] na wyl mab ardvdfyl deg
49 pwy yw ef ddiglef ddevglwyf
50 a ffwy wy finne affwy hoff wyf
51 o bai degka gan ddafydd
52 heb gel gaffel rryfel rrydd
53 bygwl gwlad fydd rrvad rrai
54 bowddyn oedd nam rrybvddiai
55 rrag ynghael ynghwlwm koddiant
56 yn lladrad fal i kad kant
57 keissiodd fi kassaodd fvdd
58 breibiwr y gerdd heb rybydd
59 ni roe neb oni rown ni
60 seren bren er i sorri
gruffydd gryg ai kant