1 Gwyllt yw ni wn ai gwell dim
2 gweled davydd vab gwilim
3 ai le dwyllvraw elw dvllvreg
4 ail wenwlydd yw davydd deg
5 da im gwydd ysgwydd esgvd
6 a drwg im absen a drvd
11 dywod gelwydd myn dewi
12 a ffrover pam vynner vi
13 Tyngodd na wnaf am tavawd
14 gore gwr onid gwyro gwawd
15 arwydd na mynwn eiriawl
16 wyro er moyd air or mawl
17 Symyl hwyl ys aml holion
18 os hoff gan ddavydd i son
19 hoff gan bob eden aflednais
20 y medw gled lwysed i lais
21 dryglam oer drwy gwlwm eiriav
22 ir dyn ohonom ni ir dav
23 a diva ar i davawd
24 lle bai a newidiai wawd
25 kyd boed kryg ennig ynni
26 yn hwf dig yn havod i
27 Nid vngamp onid angerdd
28 Nid kryg myn Mair gair or gerdd
29 hobi hors ymhob gorsedd
30 a vu hoff ni veia i wedd
31 degle / n / nes dwyglyn essydd
32 diflas yw dann daflv n sydd
33 dilis ni bv hvdoliaeth
34 o brennial wann weithian waeth
35 ail yw / r / organ y mangor
36 Rhai ai kan er Rhvo kor
37 y vlwyddyn erlyn oerlef
38 daith oer drvd y doeth ir dref
39 pawb oi goffor a roe offrwm
40 or plwy er a gannai / r / plwm
41 Trydar i dayrvar ar daryf
42 Trydydd yw davydd dewvaryf
43 hoff vydd yngwynedd meddynt
44 yn newydd i gywydd gynt
45 bellach gwywach i gywydd
46 aeth yngwyllt i waith yngwydd
47 pa ham ar gam gymraeg
48 Na wyl mab ardvdvyl deg
49 pwy yw ef ddiglef ddevglwyf
50 a ffwy wyf inne hoff wyf
51 o bai deckaf gan ddavydd
52 heb gel gaffel ryvel rydd
53 bygwl gwlad vydd rvad rai
54 bowddyn oedd nam rybvddiai
55 Rhag ynghayl ynghwlwm koddiant
56 yn lladrad val y kad kant
57 keissiodd vi kassaodd fydd
58 breibiwr y gerdd heb rybyd
59 Ni roe neb oni rown ni
60 seren bren er i sorri
Gruffyth gryg ai kant