1 Gwellt wyf ni wnn ai gwell ym
2 gweled Davydd ap Gwilym
3 elw dvllfraw aulaw dwyllfreg
4 aul gwenn wlydd yw Davydd deg
5 [151v] da ym gwydd ysgwydd esgud
6 a drwg ym asen a drvd
7 dywad i wyr y Deav
8 Davydd ar i gywydd gav
9 wadoedd ym ddym om gwawdlef
10 eithr i ddysg athro oedd ef
11 dywad gelwydd myn Dewi
12 a phrover pan vynner vi
13 tyngawdd na wnaf om tavawd
14 gorav gwas on gwyro gwawd
15 yn arwydd na wnawn eiriawl
16 gwyraw er moed gair a mawl
17 syml i hwyl os aml yw holion
18 os hoff gan ddavydd i son
21 dryglam oer dwy glwm airav
22 ir dyn o hanom yn dav
23 a diva ar i davawd
24 lle bai a newidiai wawd
25 kyd boed kryg ennyg ynni
26 yn hwf dig yn havod i
27 nid yngan onid angerdd
28 nid kryd myn Mair gair or gerdd
19 hoff gan bob edn hv lednais
20 ymedw glyd lwyslyd i lais
29 hobi Hors ymhob gorsedd
30 a vy hoff ym a vai hedd
31 dy glav naws dy glvn asyth
32 diflas yw dyn dafly syth
33 dilys na bv hvdoliaith
34 o brainiol vann waithan waith
35 ail yw r organ y Mangor
36 Rai ai kan er ryaw y kor
37 y vlwyddyn erlyn oerlef
38 dauth ar drvth i doth ir dref
39 pawb oi goffr a roi offrwm
40 or plwyf er a ganai r plwm
41 trydar daear nef ar darf
42 trydydd yw Davydd dewfarf
43 hoff vy yngwynedd meddynt
44 yn newydd i gywydd gynt
45 bellach gwiwach i gywydd
46 aeth yngwyllt i waeth yngwydd
47 na wnn pam gam Gymraeg
48 na wyl mab er Dydfyl deg
49 pwy yw ef diglef dauglwyf
50 a phwy wyf innav hoff wyf
51 or bai chwannokaf Davydd
52 heb gel i vod Ryvel Rydd
53 bwgwl a wna ryddiad rai
54 bawddyn pam nam Rybuddiai
55 Rag ynghwlm ynghael ynghwlm
koddiant
56 yn rad val i kavad kant
57 kaisawdd vi kasawdd vudd
58 bribiwr y gerdd heb Rybudd
Gryffydd gryg ae kant