1 Gwyllt wyf ny wnn ai gwell ym
2 gweled Davydd ap Gwilym
3 elw dyllfraw aulaw dwyllfreg
4 eil gwenwlydd yw Davydd deg
5 da ym gwydd ysgwydd esgud
6 a drwg ym apsen a drud
7 dywad i wyr y deav
8 davydd ar i gywydd gav
9 nad oedd ym ddym om gwawl lef
10 eithr i ddysg athro oedd ef
11 dywad gelwydd myn Dewi
12 a phrover pan vynner vi
13 tyngawdd na wnaf om tavawd
14 gorav gwas ond gwyro gwawd
15 yn arwydd na wnawn airiawl
16 gwyraw er moed gair or mawl
17 syml i hwyl os aml i holion
18 os hoff gan ddavydd y son
21 dryglam oer drwy glwm eirav
22 ir dyn o hanom yn dav
23 a diva ar i davawd
24 lle bai a newidiai wawd
25 [78] kyd boet kryg ennyg ynni
26 yn hwf dig yn havawd i
27 nid yngan onyd angerdd
28 nid kryg myn Mair gair or gerdd
19 hoff gan bob edn hv lednais
20 ymedw glyd lwysyd i lais
29 hobi hors ymhob gorsedd
30 a vy hoff ym i vai hedd
31 di glav naws dwy glvn esyth
32 diflas yw dyn daflv n syth
33 dilys na bv hudoliaeth
34 o brenial vann waithan waeth
35 ail yw r organ y Mangor
36 Rai ai kan er ruaw kor
37 y vlwyddyn erlyn oerlef
38 daith ar dryth i doeth ir dref
39 pawb oi goffr a roi offrwm
40 or plwyf er a ganai r plwm
41 trydar daear nar ar darf
42 trydydd yw davydd dewfarf
43 hoff vy yngwynedd meddynt
44 yn newydd i gywydd gynt
45 bellach gwiwach i gywydd
46 aeth yngwyllt i waith yngwydd
47 ny wnn pam gam gymraeg
48 na wyl mab er dudfyl deg
49 pwy yw ef diglef dauglwyf
50 a phwy wyf ynnav hoff wyf
51 or bai chwannokach Davydd
52 heb gel i vod Ryvel Rydd
53 [79] bwgwl gwlad vydd Ryad Rai
54 bawddyn pam nam Rybyddai
55 Rag vynghael ynghwlm koddiant
56 yn rad val i kavad kant
57 kaisawdd vi kasawdd vydd
58 bribiwr y gerdd heb Rybydd
Gryffydd gryg ai kant