Gruffydd gryg i Dd ap Gm
1 Gwyllt yw ni wn ai gwell dim
2 gweled Dafydd ab gwilim
3 ai le dwyllfraw elw dullfreg
4 ail wenwlydd iw Dafydd deg
5 da im gwydd ysgwydd esgud
6 a drwg im absen a drud
7 dowad i wyr y Dehau
8 Dafydd ar i gowydd gau
9 nad oedd im ddim ond gwawd [ ]
10 eithr i ddysg athro oedd ef
11 dywawd gelwydd myn Dewi
12 a phrofer pen fyner fi
13 tyngadd na wnaf am tafawd
14 gore gwr ond gwyro gwawd
15 arwydd na mynnwn eiriawl
16 wyro er moed air or mawl
17 syml hwylus aml hoelion
18 os hoff gan Ddafydd i son
19 [6ra] hoff gan bob edn aflednais
20 ymedw coed lwysed i lais
21 dryglam oer drwy gwlwm eiriau
22 ir dyn ohonom ni ein dau
23 a difa ar ei dafawd
24 lle ni bai a newidiai wawd
25 cyd bwy Cryg emyg imi
26 yn hwf dig fy nhafod i
27 nid un gamp onid angerdd
28 nid cryg myn mair gair or gerdd
29 hobi hors ymhob gorsedd
30 a fu wych ni feia wedd
31 degle'n nes dwyglun arsyth
32 diflas yw dan daflu syth
33 dilys ni bu hudoliaeth
34 o brenial wan weithian waeth
35 ail iwr organ ymangor
36 rhai ai can er rhuo cor
37 y flwyddun erlyn oerlef
38 daith oer drud y daeth ir dref
39 pawb ar goffr a roe offrwm
40 or plwy ar a gana ir plwm
41 trydar i daerfardd ar darf
42 trydydd yw Dafydd dewfarf
43 hoff oedd ygnwynedd meddynt
44 yn newydd i gowydd gynt
45 bellach gwyfach i gowydd
46 aeth yngwyllt i waith yngwydd
47 paham ar gam Gymraeg
48 na wul mab ir dudfab deg
49 pwy yw ef ddiglef ddeuglwyf
50 phwy wyf inae hoff wyf
51 [ ]r ddau chwanogcach Ddayfydd
52 heb gel i fod rhyfel rhydd
53 bygwl gwlad fydd rhuad rhai
54 [ ]awddyn oedd ef nam rhybuddiai
55 [6rb] rhag fy ngael ynghwlm coddiant
56 yn lladrad fel y caed cant
57 ceisiodd fi casaodd fudd
58 bribiwr y gerdd heb rybudd
61 ni roe neb ag ni rown i
62 seren bren am ei sorri
Gryffydd Gryg ai Cant