Ail Gywydd Ymryson Dafydd ap Gwilym | |
Graifft y plwyf, ei grefft a'i plyg, | |
Graff ei ddeigr, Gruffudd ogryg, | |
Dihaereb, ŵr du, erof, | |
4 | Da y cân, dieuog gof. |
Ymannerch teg, o mynnai, | |
A gair caredig a gâi; | |
Ac onis myn, gefyn gau, | |
8 | A fynnwyf a wnaf innau. |
Ni ŵyr Dduw ym, loywrym lais, | |
Wadu gair a ddywedais, | |
Na bai raid, tyngnaid tangnef, | |
12 | Sampl ei wawd: gŵr simpl yw ef. |
Llyma'r dyst, lle mae'r destun, | |
Gardd hir, yn ei gerdd ei hun. | |
Cynt i'n gŵydd y cant yn gerth | |
16 | Cefnir Dudur ap Cyfnerth |
Ym, a'r march gwŷdd, hydd hoywddaint, | |
Ac i'r organ, simffan saint, | |
Caniad dalm cyn oed dolef, | |
20 | Cenau taer, nog y cant ef. |
Pam ydd âi, ddifai ddefawd, | |
Pefr nerth, dros dalu gwerth gwawd, | |
Was dewr hy, i west y rhawg | |
24 | Ar Dudur, ŵr odidawg? |
Mynned fab ei adnabod, | |
Mulder glew, mold ar y glod, | |
Ac na fynned, ced a'i cêl, | |
28 | Ar ddychan arwydd ochel. |
Ynfyd yw i wiwfyw was | |
Anfon anrhegion rhygas | |
O Fôn, hwylion a holir, | |
32 | I mi hyd Bryderi dir. |
Henw fy ngwlad yw Bro Gadell, | |
Honnaid ei gwŷr, hyn neud gwell. | |
Ystod o'i dafod a dyf, | |
36 | Ysto garth, os dig wrthyf, |
Deuwn i gyd, da fyd fu, | |
Lawlaw rhwng y ddau lewlu, | |
Ymbrofwn, lle'r ŷm, brifeirdd | |
40 | Yn ddiannod, hyrddod heirdd, |
 dwygerdd serth, digardd sôn, | |
A deugorff ffynedigion, | |
A dau dafawd, breuwawd braw, | |
44 | A deulafn dur, a dwylaw. |
Agwrdd hwrdd ar heirdd wychdraed, | |
Ac o'r rhyfel a êl, aed. | |
Gaded ym, i ddig oedi, | |
48 | Gwden ym o gadwn i. |
Dyrnawd o hirwawd herwa, | |
Yn rhad gan ei dad, nid â. | |
Or bydd heb sorri, cri cryf, | |
52 | Digynnen, da yw gennyf; |
O syrr, lle gwesgyr Gwasgwyn, | |
O'm dawr, Gwyn ap Nudd i'm dwyn. | |