Ail Gywydd Ymryson Dafydd ap Gwilym
Ysgrifydd y plwyf, mae ei grefft yn ei blygu,
un sy'n [anelu] ei arfau yn ofalus, Gruffudd a'r atal-dweud
arno,
cadarnhad, y dyn du, ar fy nghyfer,
4 mae'n canu'n dda, cof heb euogrwydd.
Cyfarchiad teg, os dymunai,
a gair caredig a gâi [gennyf];
ac onis dymuna, llyffethair ffals,
8 fe wnaf innau fel y mynnaf.
Ni wyr Duw i mi, llais clir, gloyw,
wadu un gair o'r hyn a ddywedais,
bod angen, tynged heddychlon,
12 esiampl o'i ganu: mae'n wr di-glem.
Dyma'r dystiolaeth, lle mae'r cyhuddiad,
gwarth hir, yn ei gerdd ei hun.
Cynt yn ein presenoldeb yn sicr fe ganodd
16 Tudur ap Cyfnerth a'r cefn hir
i mi, a'r ceffyl pren, hydd â dannedd gloyw,
ac i'r organ, cytgord saint,
darn o gân cyn amser llafarganu,
20 y cenau hy, nag y canodd ef.
Pam yr âi, arferiad difai,
un pur ei nerth, yn lle talu gwerth cerdd,
y gwas dewr hy, yn westai am amser hir
24 gyda Thudur, y gwr aruchel?
Mynned y llanc ei adnabod,
gwyleidd-dra da, patrwm ar y mawl,
ac na fynned, rhodd nad yw'n guddiedig,
28 ymguddio y tu ôl i ddychan.
Mae'n beth ynfyd i lanc teilwng ei fywyd
i anfon anrhegion cas iawn
o Fôn, mae'n gwneud ceisiadau am ddarpariaeth,
32 ataf fi i wlad Pryderi.
Enw fy ngwlad yw Bro Gadell,
enwog yw ei gwyr, mae hyn yn well.
Ergyd sy'n tyfu o'i dafod,
36 darn o wlân brethyn garw, os yw'n ddig wrthyf,
deuwn i gyd, bywyd braf ydoedd,
law dra llaw rhwng y ddau fintai grymus,
fe brofwn, lle yr ydym, brifeirdd
40 heb oedi, hyrddod hardd,
gyda dwy gerdd sarrug, siarad difai,
a dau gorff iach,
a dau dafod, prawf y gerdd wannaf,
44 a dau lafn dur, a dwy law.
Hwrdd cadarn ar draed gwych a hardd,
a'r sawl sy'n mynd o'r rhyfel, boed iddo fynd.
Boed iddo adael llonydd i mi, ac oedi dicter,
48 a rhaff grogi i mi petawn i'n gadael [llonydd iddo ef].
Nid â ergyd yn rhydd [arno]
gan ei dad, oherwydd clera hir.
Os bydd heb bwdu, cri cryf,
52 ac heb ddadl, mae'n dda gen i;
[Ond] os yw'n pwdu, lle mae'n rhoi march o Wasgwyn,
os oes ots gennyf, boed i Wyn ap Nudd fy nghipio.