Ail Gywydd Ymryson Dafydd ap Gwilym | |
Ysgrifydd y plwyf, mae ei grefft yn ei blygu, | |
un sy'n [anelu] ei arfau yn ofalus, Gruffudd a'r atal–dweud arno, | |
cadarnhad, y dyn du, ar fy nghyfer, | |
4 | mae'n canu'n dda, cof heb euogrwydd. |
Cyfarchiad teg, os dymunai, | |
a gair caredig a gâi [gennyf]; | |
ac onis dymuna, llyffethair ffals, | |
8 | fe wnaf innau fel y mynnaf. |
Ni ŵyr Duw i mi, llais clir, gloyw, | |
wadu un gair o'r hyn a ddywedais, | |
bod angen, tynged heddychlon, | |
12 | esiampl o'i ganu: mae'n ŵr di–glem. |
Dyma'r dystiolaeth, lle mae'r cyhuddiad, | |
gwarth hir, yn ei gerdd ei hun. | |
Cynt yn ein presenoldeb yn sicr fe ganodd | |
16 | Tudur ap Cyfnerth a'r cefn hir |
i mi, a'r ceffyl pren, hydd â dannedd gloyw, | |
ac i'r organ, cytgord saint, | |
darn o gân cyn amser llafarganu, | |
20 | y cenau hy, nag y canodd ef. |
Pam yr âi, arferiad difai, | |
un pur ei nerth, yn lle talu gwerth cerdd, | |
y gwas dewr hy, yn westai am amser hir | |
24 | gyda Thudur, y gŵr aruchel? |
Mynned y llanc ei adnabod, | |
gwyleidd–dra da, patrwm ar y mawl, | |
ac na fynned, rhodd nad yw'n guddiedig, | |
28 | ymguddio y tu ôl i ddychan. |
Mae'n beth ynfyd i lanc teilwng ei fywyd | |
i anfon anrhegion cas iawn | |
o Fôn, mae'n gwneud ceisiadau am ddarpariaeth, | |
32 | ataf fi i wlad Pryderi. |
Enw fy ngwlad yw Bro Gadell, | |
enwog yw ei gwŷr, mae hyn yn well. | |
Ergyd sy'n tyfu o'i dafod, | |
36 | darn o wlân brethyn garw, os yw'n ddig wrthyf, |
deuwn i gyd, bywyd braf ydoedd, | |
law dra llaw rhwng y ddau fintai grymus, | |
fe brofwn, lle yr ydym, brifeirdd | |
40 | heb oedi, hyrddod hardd, |
gyda dwy gerdd sarrug, siarad difai, | |
a dau gorff iach, | |
a dau dafod, prawf y gerdd wannaf, | |
44 | a dau lafn dur, a dwy law. |
Hwrdd cadarn ar draed gwych a hardd, | |
a'r sawl sy'n mynd o'r rhyfel, boed iddo fynd. | |
Boed iddo adael llonydd i mi, ac oedi dicter, | |
48 | a rhaff grogi i mi petawn i'n gadael [llonydd iddo ef]. |
Nid â ergyd yn rhydd [arno] | |
gan ei dad, oherwydd clera hir. | |
Os bydd heb bwdu, cri cryf, | |
52 | ac heb ddadl, mae'n dda gen i; |
[Ond] os yw'n pwdu, lle mae'n rhoi march o Wasgŵyn, | |
os oes ots gennyf, boed i Wyn ap Nudd fy nghipio. | |