GDG 150, BDG cxxiii
Cynghanedd: Sain 22 ll. (41%); Traws 14 ll. (26%); Croes 16 ll. (29%); Lusg 2 ll. (4%).
Ceir y cywydd hwn yn yr un llawysgrifau â'r cywydd blaenorol.
1. graifft 'ysgrifbin', ac yn drosiadol 'ysgrifennwr', gw. GPC 1523. Hwn a geir yn fersiwn y Vetustus, ac mae'n ddarlleniad anos na grifft fersiynau Llywelyn Siôn a WD.
2. deigr ffurf luosog dagr , a hynny'n drosiad am ysgrifbinnau, mae'n debyg, fel yr awgrymodd Parry, GDG 551, er na nodir y ffurf yn GPC 879.
3–4. Dim ond yn llawysgrifau Llywelyn Siôn y ceir y cwpled hwn.
7. onis myn Llywelyn Siôn. Oni myn sydd yn y Vetustus a C 5, ac oni fyn sydd yn CM 5. Ceir darlleniad hollol wahanol gan WD: er vn ai gofyn yn gav .
9. ni ŵyr Dduw Llywelyn Siôn. Mae'r treiglad yn od yma, ac yn ôl TC 368–70, nid yw'n gywir, ond er i Parry ei dderbyn yn argraffiad cyntaf GDG, newidiodd y testun ar gyfer yr ail argraffiad, gan roi Duw . Cefnogir y ffurf dreigledig gan fersiwn y Vetustus, nis gwyr Dduw (ni wrddwn C 7; ond Nis gwyr dim C 5). Cymh. darlleniadau'r llsgrau ar gyfer 141.16.
10. wadu gair Dyma'r darlleniad sydd gan Lywelyn Siôn, ond mae'r gweddill yn cynnig wadu'r hyn .
11. na bai raid Mae Llywelyn Siôn yn darllen bod yn rhaid , ond y gystrawen yw 'gwadu. . .na'.
tyngnaid nid yw'r gair hwn yn ymddangos yn GPC, ond gw. GPC 2550 ar naid yn yr ystyr 'tynged'.
12. sampl Ceir y gair yng ngwaith Ieuan ap Rhydderch (GIRh, I.44) yn cynganeddu gyda simpl yn yr achos hwnnw hefyd. Ceir siampl o'i (fel yn GDG) yn H 26, M 212 a C 7, ond i a geir yn y llawysgrifau cynnar eraill.
13. dyst ...destun Llywelyn Siôn yn unig sy'n cadw ffurf gysefin y geiriau. Gwrywaidd yw tyst fel rheol, ac nid oes enghraifft arall ohono fel gair benywaidd yng ngwaith Dafydd ap Gwilym nac ym marddoniaeth y bedwaredd ganrif ar ddeg. Ond benywaidd yw testun yn 106.24 a 36.
14. gardd Llywelyn Siôn a fersiwn y Vetustus; ffurf dreigledig cardd , 'gwarth'. Ceir gradd yn C 5, a gwardd yn CM 5 a chan WD.
16. Tudur ap Cyfnerth Enwir gŵr o'r enw Tudur ap Cyfnerth mewn achosion yn ymwneud â dyled a gofnodir yn rholiau llys Caernarfon yn 1361, gw. G.P. Hughes a Hugh Owen (gol.), Caernarvon Court Rolls 1361–1402 (Caernarvon, 1951), 16. Diau mai hwn yw'r bardd, ond nid oes enghreifftiau o'i waith wedi goroesi. Yn ôl tystiolaeth Dafydd ap Gwilym, canodd gerddi am y ceffyl pren a'r organ. Mae Dafydd yn honni bod Gruffudd yn llênladrata gwaith Tudur.
18. simffan Mae'n debyg bod y gair hwn yn anghyfarwydd i'r copïwyr. Symplan a geir gan Lywelyn Siôn, sigymdan yn C 5, simpian yn fersiwn y Vetustus a CM 5a seiniay gan WD, felly diwygiwyd y gair. Dilynodd Parry y Vetustus, gan egluro bod simpian yn fenthyciad 'o ryw ffurf' ar symphan o'r Saesneg, ond nid oes unrhyw enghreifftiau eraill o simpian yn GPC. Ceir y gair sinffan yng ngwaith Lewys Glyn Cothi, yn golygu offeryn cerddorol, neu sain gerddorol bleserus: gw. GLGC 138.24n.
21. ydd Ceir y ffurf amrywiol yir yn fersiwn y Vetustus, CM 5, a WD.
27. ced a'i cêl Llywelyn Siôn. Mae Gruffudd Gryg yn cuddio ei hun, neu yn cuddio ei lênladrad.
28. arwydd ochel M 212, C 7 ac WD. Arwydd uchel sydd yn y llawysgrifau cynnar eraill — sef Llywelyn Siôn, a C 5 (mae blot ar H 26). Cyferbynnu clod a dychan y mae Dafydd yma.
31—2. Mae'r cwpled hwn yn eisiau yn C 5.
31. hwylion a holir Llywelyn Siôn. Holion a holir a geir yn y llawysgrifau eraill, ac eithrio CM 5 sy'n cynnig hailon . Dilynodd Thomas Parry y Vetustus ac eraill, ond mae'r gynghanedd yn wan gyda holi– yn cael ei ailadrodd. Hefyd, mae ystyr holion yn ansicr — mae'n bosib mai 'claims' ydyw yn Saesneg, ond nid dyna'r gair a ddefnyddir yn gyffredin yn gyfreithiol. Gall hwyl olygu 'darpariaeth', a'r ffurf luosog a geir yma, GPC 1938 s.v. hwyl 2.
32. Pryderi dir sef yr hen Ddyfed, cymh. 5.36—8.
33. Bro Gadell enw arall ar Ddyfed. Tad Hywel Dda oedd Cadell, ac mae'n debyg bod 'Bro Gadell' yn well enw am ei fod yn hanesyddol, yn wahanol i'r arwr chwedlonol Pryderi.
34. neud Ceir y gair hynafol hwn yn H 26 yn unig.
39. lle'r ym od ym sydd yn y llawysgrifau eraill oll, ond dilynwyd Llywelyn Siôn yma.
40. yn ddiannod Llywelyn Siôn. Ym gyfarvod sydd yn C 5, a dau dafawd hyrddwawd yn y Vetustus, CM 5, C 7 a chan WD — ond fe geir y geiriau hynny (fel yn y Vetustus) yn ll. 43 hefyd (gw. y nodyn, isod).
43–44. Symudodd Thomas Parry y cwpled hwn, a geir yn y safle hwn gan Lywelyn Siôn, ac yn y cywydd hwn yn y llawysgrifau eraill, i'r cywydd nesaf, sef cywydd Gruffudd Gryg, ar y sail ei fod yn gweddu'n well yn y safle hwnnw, gan fod y cyfeiriad at gleddyf yn y llinellau hyn yn gweddu'n well yma. Ond, fel y dywed Parry, mae hyn yn erbyn tystiolaeth y llawysgrifau, sydd oll yn cynnwys y cwpled yn y cywydd hwn; mae'n annhebygol y byddai wedi llithro o gywydd Gruffudd i un Dafydd trwy gamgymeriad, a'r tebyg yw ei fod yn perthyn yma.
43. breuwawd y Vetustus, C 7, WD, a CM 5, ond brifwawd sydd gan Lywelyn Siôn, a hud wawd braw sydd yn C 5. Mae dewis rhwng breuwawd a brifwawd yn anodd, ond breuwawd yw'r darlleniad anos, a'r un a fyddai, o ganlyniad, yn fwy tebygol o gael ei addasu gan y copïwyr.
49. Dyrnawd o hirwawd Mae'r llawysgrifau cynnar oll, ac eithrio Llywelyn Siôn, yn rhoi fy nyrnawd, hirwawd .
50. nid â od a a geir gan Lywelyn Siôn, ond nid oes prif gymal i gyflawni'r gystrawen. Mae'n ymddangos bod y cwpled hwn yn cyfeirio at driawd cyfreithiol, 'teir paluut ny diwygir', sy'n rhestru'r tair ergyd sydd heb gosb ariannol amdanynt: tad ar ei fab yn ei gosbi, arglwydd ar ei ŵr mewn brwydr, a phencenedl ar ei gâr wrth ei gynghori, gw. LlB 111. Mae ystyr yr adran hon braidd yn dywyll, ond fe ymddengys mai'r ergyd yw na all tad Gruffudd ei guro am fod Gruffudd i ffwrdd yn clera o hyd.
53. lle gwesgyr lle'i a geir yn GDG, ar sail CM 5 a C 7, ond lle gwesgyr a geir yn y llawysgrifau cynnar eraill. Ceir eglurhad gan Parry: 'pan fydd fy march yn ei yrru ar ffo' (GDG 552), ond gall gwasgaraf hefyd olygu 'rhoi', gw. GPC 1595. Trwy ddilyn Llywelyn Siôn a'r llawysgrifau eraill sydd heb roi'r rhagenw, ceir gwell synnwyr wrth ddilyn yr ail ystyr yn GPC.
Gwasgwyn ceffyl o Gascony.
54. Gwyn ap Nudd Pennaeth y Tylwyth Teg, gw. 57.32n.