1 Grift y plwyf i grist au plyg
2 graff i ddaigr Gryffydd ogryg
3 diaereb wr dv erof
4 da i kan di auog kof
5 ymannerch teg o mynnai
6 a gair karedig a gai
7 ag onys mynn gevyn gav
8 a vynnwyf a wnaf innav
9 ny wyr dduw ym loewrym lais
10 wady gair ag a wedais
11 [152r] bod yn Raid tangnaid tangef
12 sampl i wawd gwr sympl yw ef
13 llymar tust lle mae r tystvn
14 gardd hir yny gerdd i hvn
15 kynt yn gwydd i kant yn gerth
16 kefn hir i daudir ap kyfnerth
17 ym ar march gwydd hydd hoewddaint
18 ag ir organ symplan saint
19 kaniad talm kyn oed dolef
20 kenav taer nag i kant ef
21 pam i ddai ddivai ddevawd
22 pefr nerth dros daly gwerth gwawd
23 was dewr hv i west yr hawg
24 ar Dydur wr odidawg
25 myned vab i adnabod
26 mvlder glew mold ar i glod
27 ag na vynned ked au kel
28 ar ddychan arwydd vchel
29 ynfyd yw i wiwsyw was
30 anfon anregion Rygas
31 o von hwylion i holir
32 i mi hyd bryderi dir
33 henw vyngwlad yw bro Gadell
34 honnaid y gwr hynn nid gwell
35 ystod oi davod a dyf
36 ysto garth os dig wrthyf
37 dauwn i gyd da vyd vy
38 lawlaw Rwng y ddav loewlv
55 prif enw dwys provwn yn dav
56 pa wr ymrwydr pwy orav
57 down i gyd dienig ym
58 a dav gledd odidawglym
39 ym brovwn lle rym brivairdd
40 yn ddi annod hyrddod hairdd
41 a dwy gerdd serth digardd son
42 a dau gorff ffynnedigion
43 a dav davawd brifwawd braw
44 a dav lafn ddur a dwylaw
45 a gwrdd hwrdd ar hairdd wychdraed
46 ag or Ryvel a el aed
47 gadem ym i ddi goedi
48 gwden ym o gadwn i
49 vy nyrnawd hirwawd herwa
50 yn Rad gan i dad o da
51 or bydd heb sorri kri kryf
52 di gynnen da yw gennyf
53 o syrr lle gwesgyr gwasgwyn
54 om daw i Gwynn ap Nvdd ym dwyn
Davydd ap Gwilym ai kant