â â â Trydydd Cywydd Ymryson Gruffudd Gryg
1â â â Dafydd, ponid edifar
2â â â Dyfu'r hyn a fu o fâr?
3â â â Rhoed ethrod, annod ynni,
4â â â Rho Duw mawr, yrhod a mi.
5â â â Credaist ef, croywdyst ofer,
6â â â Crediad yw a glyw y glêr.
7â â â Dwyoch ym, o'm dychymig,
8â â â O'm dawr i digoni dig.
9â â â Mawr yw gennyd dy fryd fry,
10â â â Mwyfwy dy sen â myfy;
11â â â A bychan a rybuchud
12â â â Ym o'r gerdd rym agwrdd ddrud.
13â â â Amlwg dy chwant i ymladd,
14â â â Mae ym ras, â mi am radd.
15â â â I'm nwyf nid arhowy'r haf
16â â â A chael fy mun o chiliaf
17â â â Er unbardd, oerwr enbyd,
18â â â Droedfedd na modfedd ym myd.
19â â â Mawr dy sôn am ddigoni,
20â â â Meddud, dewr ytoeddud di.
21â â â Dewis, Dafydd, a dywaid
22â â â Ym beth a fynnych neu baid:
23â â â Ai ymsang, wr eang wg,
24â â â Am radd, ai ymladd amlwg?
25â â â Ai ymdonnog ymdynnu
26â â â Tros dân, wr trahäus du?
27â â â O sorraist, od wyd sarrug,
28â â â Os aml dy ffull, syml dy ffug,
29â â â Dod yman, bwhwman byd,
30â â â Dy anfodd, wr du ynfyd.
31â â â Mae rhental, mi a wrantwn,
32â â â Ar led dy gwcwll twll twn;
33â â â A llwydd yngwydd llu ddengwaith,
34â â â Ymbrofi â thi o'th iaith.
35â â â Ni wys o gorff na orffwyf,
36â â â Neu o gerdd; aneuog wyf.
37â â â Down i gyd, diennig ym,
38â â â Â deugledd odidowglym;
39â â â Prifenw dysg, profwn ein dau
40â â â Pa wr ym mrwydr, pwy orau.
41â â â Dafydd, o beiddir dyfod
42â â â Â main gledd, o mynny glod,
43â â â Duw a ran rhwng dau angerdd,
44â â â Dyred i'r cyrch, daradr cerdd.
45â â â Aed i ddiawl, dragwyddawl dro,
46â â â Y galon fefl a gilio.
47â â â Trwch iawn y'th farnaf, Ddafydd,
48â â â Tristäu Dyddgu o'r dydd.
49â â â Didrwch wyf, ffieiddwyf ffo,
50â â â Didrist Gweirful o'm didro.
51â â â Gwae Ddyddgu, ddyn gweddeiddgall,
52â â â Gwyn fyd Gweirful: ni wyl wall.
53â â â Llew ydwyf rhwysg, llo ydwyd,
54â â â Cyw'r eryr wyf, cyw'r iâr wyd,
55â â â A dewr ydwyf a diriaid,
56â â â A rhwysg bonheddig yn rhaid,
57â â â A cherdd ben y sydd gennyf,
58â â â A chryg y'm galwant a chryf,
59â â â Ac ni'm dawr, newyddfawr nwyf,
60â â â Byth yn ôl, beth a wnelwyf.
61â â â O thrawaf heb athrywyn
62â â â Â min fy nghledd dannedd dyn,
63â â â Bychan iawn a rybuched
64â â â A geir gennyf i o ged.
65â â â Medr bwyll gyda mydr o ben,
66â â â 'Mogel, nid mi Rys Meigen.