Trydydd Cywydd Ymryson Gruffudd Gryg
Dafydd, onid yw'n edifar [gennyt]
dyfu'r holl lid a fu?
Gwnaed enllib, edliwiad egnïol,
4 myn Duw mawr, rhyngot ti a fi.
Credaist ef, y tyst hyglyw ffals,
mae'n grediad y clyw y glêr amdano.
Dwy och imi, o'm dychymyg,
8 os oes ots gen i gyflawni dicter.
Mae gennyt feddwl mawr ohonot dy hun,
mwy byth yw dy sarhad arnaf i,
a doedd dim llawer o ewyllys [da]
12 i mi yn y cerddi grymus, cadarn a gwrol.
Amlwg yw dy awydd i ymladd,
mae gen i ddigonedd o ras, yn fy erbyn am radd farddol.
Na foed i mi weld yr haf am fy serch
16 ac ennill fy merch os ciliaf
oherwydd un bardd, gwr oer ac ofnadwy,
droedfedd neu fodfedd yn y byd.
Mawr yw dy siarad am gyflawni,
20 fe ddywedaist mai un dewr oeddet ti.
Dewis, Dafydd, a dyweda
wrthyf beth sydd arnat ei eisiau, neu rho'r gorau iddi:
ai cystadlu, ddyn mawr dy wgu,
24 am radd, ynteu ymladd agored?
Ai tynnu [rhaff] yn ystyfnig
dros dân, y dyn rhyfygus du?
Os pwdaist, os wyt mewn drwg dymer,
28 os wyt yn fawr dy ffwdan, hurt yw dy gelwydd,
dyro yma, crwydrwr y byd,
dy anfodlondeb, y dyn du ynfyd.
Mae rhent i'w dalu, rwy'n sicr,
32 ar dy benwisg dyllog doredig;
ac mae cystadlu â thi o flaen tyrfa ddengwaith,
yn dod â llwyddiant oherwydd dy iaith.
Nid oes neb yn gwybod na fyddaf yn fuddugol yn gorfforol,
36 neu ar gerdd; dyn dieuog ydwyf.
Down i gyd, rydym yn eiddgar,
â dau gleddyf godidog a miniog;
prif enw dysg, gadewch i ni ein dau brofi
40 pa ddyn mewn brwydr, pwy yw'r gorau.
Dafydd, os wyt ti'n beiddio dod
â chleddyf main, os wyt ti'n mynnu clod,
Duw fydd yn penderfynu rhwng dwy ddawn,
44 tyrd i'r ymosodiad, ebill y gerdd.
Aed i ddiawl, am byth bythoedd,
y galon gywilyddus sy'n cilio.
Rwy'n barnu mai drwg iawn wyt, Ddafydd,
48 am siomi Dyddgu o'r oed.
Daionus wyf fi, rwy'n casáu ffoi,
a hapus yw Gweirful oherwydd fy nghrwydro.
Gwae Ddyddgu, ferch weddus a deallus,
52 [ond] gwyn ei byd Gweirful: nid yw'n gwybod dim am ddiffyg.
Llew galluog ydw i, llo wyt ti,
cyw'r eryr ydw i, cyw'r iâr wyt ti,
ac rydw i'n ddewr ac erchyll,
56 ac yn alluog a bonheddig mewn brwydr,
ac mae gen i geg i farddoni,
ac maent yn fy ngalw yn gryg a chryf,
ac nid oes gwahaniaeth gen i, asbri newydd mawr,
60 byth wedyn, beth a wnaf.
Os ydw i'n ergydio heb gymodi
gyda blaen fy nghleddyf ddannedd dyn,
ychydig iawn o ymddiheuriad
64 a geir yn rhad gennyf i.
Bydd yn gall gyda'r gerdd o'th ben,
gofala, nid Rhys Meigen ydw i.